Ymchwiliad i lygredd mewn llyn yn y Gogledd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lansio ymchwiliad, ar ôl i’r hyn a allai fod yn tyrpentin lygru afon sy’n llifo i Lyn Padarn, ger Llanberis.
Hysbyswyd ni am y llygredd gan Dŵr Cymru yn gynharach heddiw ar ôl i’r sylwedd lifo i’w gwaith trin carthion drwy’r system dŵr wyneb.
Erbyn hyn, mae’r sylwedd wedi treiddio i Afon y Bala sy’n cyflenwi Llyn Padarn. Mae hyn wedi effeithio ar olwg yr afon ac wedi achosi arogl annymunol cryf.
Mae swyddogion wedi bod ar y safle ac wedi cydweithio â Dŵr Cymru i olrhain y ffynhonnell.
Mae hyn wedi cael ei ganfod, a bellach mae swyddogion yn ymchwilio i achos y digwyddiad hwn ac maent yn asesu unrhyw effaith posibl ar fywyd gwyllt a’r amgylchedd.
Bydd Cyngor Gwynedd yn gosod arwyddion i rybuddio ymdrochwyr rhag nofio yn Afon y Bala.
Mae’r ymchwiliad yn parhau.