Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Cael gwared ar goed mawr o lethr serth

Mae cam nesaf prosiect £3 miliwn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gael gwared â choed ansefydlog uwchben cefnffordd brysur yng nghanolbarth Cymru ar fin mynd rhagddo.

Sefydlwyd prosiect Gwaith Coed a Sefydlogi Llechwedd Bont Evans, neu BETWS, gan CNC i amddiffyn pobl trwy gael gwared ar goed enfawr sy’n tyfu ar lethr serth uwchben yr A487, i’r gogledd o Fachynlleth.

Mae cael gwared ar y coed o ran fwyaf serth y llethr yn risg uchel i bobl a cheir oddi tanynt.

Mae llawer o'r coed dros 43m o uchder, dwywaith maint cloc tref Machynlleth, ac yn pwyso dros 12 tunnel.

O ganlyniad, mae angen stopio’r traffig yn y ddau gyfeiriad am hyd at ddeng munud bob tro y caiff coeden ei symud.

Dywedodd Jared Gethin, Rheolwr Prosiect BETWS ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r coed hyn yn dod yn fwyfwy ansefydlog oherwydd eu maint a’u hoedran, ac mae’r risg y gallant syrthio ar y ffordd ac achosi damwain yn cynyddu.

“Ond nid yw hwn yn brosiect syml oherwydd bod y coed yn fawr, ar lethr serth iawn, ac yn union uwchben priffordd brysur.

“Mae hyn yn golygu nad oes gennym unrhyw ddewis ond i stopio traffig yn y ddau gyfeiriad tra byddwn yn torri pob coeden yn ddiogel ac yna’n ei thynnu o’r llethr.”

Mae trefniadau ar waith i sicrhau bod cerbydau brys yn gallu mynd drwy’r goleuadau heb unrhyw oedi.

Mae contractwr CNC, Dawnus, wedi bod yn gweithio ar y safle ers yr hydref diwethaf pan wnaethant ddechrau paratoadau.

Roedd hyn yn cynnwys gosod ffens ddal 900 metr o hyd ar waelod y llethr i atal cerrig a malurion rhag disgyn ar y ffordd tra bod y coed yn cael eu torri.

Mae CNC a Dawnus wedi cwrdd â phobl o’r gymuned leol yn y cyfnod sy’n arwain at y gwaith o dorri coed ac maent yn gweithio i leihau'r effaith gymaint ag y bo modd.

Parhaodd Jared,

“Mae hwn yn brosiect pwysig, a disgwylir iddo gymryd tua 9 mis i gael gwared ar y coed o rannau mwyaf serth y llethr.

"Fodd bynnag, gallwn ond gwneud hyn un goeden ar y tro, felly mae'n bwysig pwysleisio bod hyd y gwaith yn ansicr, yn dibynnu ar sut mae’n mynd rhagddo.

“Mae’n ddrwg gennym am darfu ar deithiau a byddwn yn gwneud ein gorau i leihau'r effaith ar bobl, ond ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel.

“Rydym hefyd wedi ymrwymo i leihau effaith ein gwaith ar fywyd gwyllt. Rydym wedi dechrau hyn trwy glirio rhai coed a llystyfiant dros y gaeaf, a byddwn yn cynnal arolygon rheolaidd wrth i’r gwaith o dorri coed fynd rhagddo.”

Ni fydd Dawnus yn gweithio ar y llethr serth ar benwythnosau neu wyliau cyhoeddus, i leihau amhariad.

Bydd dargyfeiriad hefyd ar waith ar hyd yr A470 trwy Fallwyd ar gyfer gyrwyr sy’n dymuno osgoi’r aflonyddwch yn gyfan gwbl.

Mae’r coed yn rhan o goetir Tan y Coed a reolir gan CNC, ac maent yn goed pinwydd Douglas, sbriws-hemlog y Gorllewin a sbriws Sitca yn bennaf.

Bydd y coed wedi’u torri’n cael eu gwerthu i fasnachwyr, lle byddant yn cael eu defnyddio i gyflenwi’r diwydiannau adeiladu, amaethyddol a thanwydd coed.

Bydd hyn yn cynhyrchu gwerth £500,000 o goed y gellir ei ail-fuddsoddi yn Ystâd Coetiroedd Llywodraeth Cymru.

Mae llwybr rhedeg Bryn Llwyd a llwybr troed cyhoeddus gerllaw wedi’u cau am resymau diogelwch.

Ond mae maes parcio Tan y Coed a llwybrau cerdded a rhedeg eraill yn agored i bobl eu mwynhau.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y prosiect ar CyfoethNaturiol.Cymru/BETWS, neu cysylltwch â CNC ar betws@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.