Helpwch ni i adnabod gyrwyr anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn apelio am help ar ôl i griw o bobl gael eu dal ar gamera’n defnyddio beiciau modur yn anghyfreithlon mewn coedwig yng ngogledd Cymru.
Tynnwyd lluniau’r pump yng nghanol Coedwig Clocaenog yn Sir Ddinbych ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr.
Mae gyrru anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd yng nghoedwigoedd gogledd Cymru yn broblem gynyddol, gan achosi difrod i lwybrau troed, llwybrau ceffylau a llwybrau beicio mynydd, yn ogystal â pheryglu diogelwch pobl eraill yn y goedwig.
Hefyd, mae’r arfer yn amharu ar fywyd gwyllt yn yr ardal.
Mae’n drosedd gyrru beiciau modur neu feiciau cwad ar dir heb ganiatâd y perchennog.
Meddai Glenn Williams, rheolwr tir yn Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Dyfrdwy Uchaf a Chlwyd: “Gall gyrru anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd fod yn beryglus i gerddwyr, marchogwyr, beicwyr a phobl eraill sy’n mwynhau ymweld â’u coedwigoedd lleol.
“Hefyd, gall gael effeithiau pellgyrhaeddol ar yr amgylchedd, gan niweidio gwreiddiau coed ac amharu ar gynefinoedd sensitif bywyd gwyllt.
“Mewn adeg o doriadau yn y sector cyhoeddus, mae hyn yn dreth ar ein harian, yn aml gan ddifrodi giatiau, ffensys a meysydd parcio. Byddai’n well o lawer gennym wario’r arian ar wella safleoedd i gymunedau lleol.
“Pan gânt eu defnyddio mewn modd cyfrifol, mae ein coedwigoedd yn lleoedd bendigedig, ac nid ydym eisiau i ymddygiad di-hid nifer fechan o bobl eu difetha i bawb arall nac i genedlaethau’r dyfodol.”
Mae CNC yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y criw hwn roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru trwy ffonio eu rhif di-argyfwng, 101.