Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Ydych chi wedi gweld Herlod neu Wangod?

Y mis hwn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i bobl am help i gofnodi pysgod prin sydd i’w cael yn afonydd Cymru.

Fis Mehefin, mae miloedd o Herlod a Gwangod yn silio mewn tair afon yn Ne Cymru, sef Afon Gwy, Afon Wysg ac Afon Tywi.

Ond mae gan CNC ddiddordeb mewn achosion posibl o’u gweld mewn mannau eraill hefyd, yn enwedig yng Ngogledd Cymru.

Y ddwy rywogaeth dan sylw yw’r herlyn (Alosa alosa) a’r wangen (Alosa fallax). Mae’r rhain yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yn y môr, ond yr adeg hon o’r flwyddyn maen nhw’n mynd i afonydd i silio.

Ar ôl silio mae nifer ohonyn nhw’n marw, ond mae pob pysgodyn benywaidd yn cynhyrchu miloedd o wyau ar gyfer cychwyn y genhedlaeth nesaf.

Ymddengys fod Herlod a Gwangod – sydd dan fygythiad yn y DU ac yn Ewrop – yn gwneud yn dda yng Nghymru.

Meddai Tristan Hatton-Ellis, Arweinydd Tîm Ecosystemau Dŵr Croyw yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Fel y wennol, mae herlod a gwangod yn arwydd fod yr haf wedi cyrraedd ein hafonydd ac mae gennym ddiddordeb mewn cael cofnodion ohonyn nhw ar gyfer unrhyw ran o Gymru, ond yn arbennig mewn afonydd yng Ngogledd Cymru lle y credwn fod yna boblogaethau bach i’w cael.

“Chwiliwch amdanyn nhw gyda’r nos yn rhannau canol ac isaf afonydd, lle y gallwch eu gweld yn nofio o amgylch ei gilydd mewn cylchoedd.

“Yn ddiweddarach yn y nos fe fyddan nhw’n silio, gyda’r dŵr yn tasgu’n swnllyd wrth i’r pysgod gwrywaidd fynd ar ôl y rhai benywaidd.”

Ffeithiau Diddorol am Herlod a Gwangod

  • Mae herlod a gwangod yn rhywogaethau gwarchodedig gan eu bod mor brin
  • Herlod a gwangod yw’r unig aelodau o deulu’r pennog sy’n byw mewn dŵr croyw yn y DU. Mae ganddyn nhw sawl enw arall, gan gynnwys Pysgodyn Mai, Brenin y Penwaig a’r Marchog Esgyrnog
  • Ers talwm câi herlod a gwangod eu pysgota’n eang yn Ewrop ac arferid eu bwyta ym Mhrydain. Yn Aber Afon Hafren yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd oddeutu un rhan o dair o bob dalfa yn cynnwys herlod a gwangod, gyda’u gwerth bron cymaint â’r eog
  • Mae herlod a gwangod yn silio mewn dyfroedd rhedegog, ar gerrig a graean. Mae’r wyau’n cymryd rhyw bedwar i chwe diwrnod i ddeor. Yna, mae’r pysgod ifanc yn teithio i lawr yr afon i aberoedd a dyfroedd mewndirol, lle y maen nhw’n bwydo ar ferdys bach ac yn tyfu’n gyflym
  • Gall herlod a gwangod fyw i fod yn 10 oed. Mae’r pysgod benywaidd yn tyfu’n gyflymach na’r rhai gwrywaidd

Ychwanega Tristan Hatton-Ellis:

“Weithiau, gall pysgotwyr afon neu bysgotwyr môr eu dal yn ddamweiniol, ac efallai hefyd y gwelwch sgerbydau pysgod sydd naill ai wedi marw’n naturiol neu sydd wedi’u dal gan ddyfrgwn.

“Os digwyddwch ddal herlod neu wangod, tynnwch lun ohonyn nhw ac yna eu dychwelyd yn ofalus i’r afon, gan afael cyn lleied â phosibl ynddyn nhw gan eu bod yn fwy bregus na nifer o bysgod eraill."

Os gwelwch herlod, gwangod neu fywyd gwyllt diddorol o fath arall, anfonwch eich cofnodion i un o’r Canolfannau Cofnodi Lleol sydd i’w cael ar draws Cymru.

Mae yna bedair canolfan ar gyfer gwahanol rannau o’r wlad (gweler www.lercwales.org.uk), ac mae’r rhain yn storio gwybodaeth.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.