Dysgwyr ifanc yn ennill Mesen Aur

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi enillwyr Wobr Fesen Aur cyntaf erioed.
Casglodd enillwyr eleni, Ysgol Trefonnen yn Llandrindod Wells, dros 250kg o fes o’r ansawdd gorau fydd bellach yn cael eu defnyddio i dyfu mwy o goed derw lleol yng Nghymru.
Bu deunaw grŵp addysg o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Miri Mes, sy’n helpu CNC i blannu mwy o goed sydd wedi’u tyfu o hadau lleol.
Hefyd mae’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc fynd allan i’r awyr agored i ddysgu am amgylchedd naturiol Cymru.
Dywedodd Ffion Hughes, Cydlynydd Addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Cafodd yr ymgyrch ymateb gwych eleni eto gyda dysgwyr o bob oedran yn casglu dros 500kg o fes mewn chwe wythnos - digon i blannu 115 o gaeau pêl-droed yn llawn o goed derw.
“Penderfynwyd creu Gwobr Fesen Aur i annog ein casglwyr mes i gymryd amser i ddysgu am wahanol fes, a dewis mes o’r ansawdd gorau i ni dyfu.
“Mae Ysgol Trefonnen yn enillwyr teilwng o’r wobr, ar ôl casglu 253.3kg o fes o’r ansawdd gorau, ac ennill detholiad o lyfrau addysgiadol a chodi dros £1,000 i’r ysgol.
“Rydym am ddiolch i bawb a gymerodd ran, maent nid yn unig yn ein helpu i dyfu mwy o goed derw Cymreig, ond maent hefyd wedi treulio amser gwerthfawr yn dysgu yn yr awyr agored.
“Nawr rydym yn edrych ymlaen at blannu’r coed derw o ymgyrch y flwyddyn ddiwethaf.”
Roedd grwpiau addysg fel Cylchoedd Meithrin, sgowtiaid ac ysgolion cynradd yn cymryd rhan gyda mes yn cael eu casglu o diroedd yr ysgol, parciau a ffermydd. Casglwyd rhai hyd yn oed o dir Castell y Waun a Phafiliwn Llangollen.
Mae CNC yn talu hyd at £4.40 y cilogram, gan ddibynnu ar ansawdd y mes, cyn eu hanfon i feithrinfa goed Comisiwn Coedwigaeth yn swydd Gaer lle byddant yn cael eu tyfu’n goed ifanc.
Mae ailblannu hadau yn helpu lleihau’r risg o wasgaru plâu a chlefydau a all ddinistrio coedwigoedd.
Yn ogystal mae coed derw yn darparu cartref i fywyd gwyllt ac yn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd, drwy amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer.
Hefyd gallant helpu leihau’r perygl o lifogydd a helpu creu lleoedd gwych i bobl ymlacio a mwynhau’r awyr agored.