Disgwylir llifogydd ar hyd arfordir gogledd Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl ar hyd arfordir y gogledd i weithredu i amddiffyn eu hunain a’u heiddo rhag llifogydd.
DATGANIAD RHAGOLYGON LLIFOGYDD: DIWEDDARIAD 9:30 yb 05/12/13
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl ar hyd arfordir y gogledd i weithredu i amddiffyn eu hunain a’u heiddo rhag llifogydd.
Rhagwelir y bydd llanwau uchel a gwyntoedd grymus iawn yn peri ymchwyddiadau llanwol gyda’r uchaf a welwyd dros y 10 mlynedd diwethaf, 20 mlynedd o bosibl, o 11.30 bore heddiw (Dydd Iau'r 5ed o Ragfyr 2013).
Rhagwelir y bydd y rhain yn peri i lefelau’r môr godi 1m yn uwch na’r arfer, ac uwchben amddiffynfeydd mewn mannau, a pheri llifogydd i bobl sy’n byw yno. Gall hyn gynnwys meysydd carafanau.
Cynghorir pobl i baratoi cymaint â phosibl, fel symud eitemau gwerthfawr, pwysig i le diogel, sicrhau eu bod yn cadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel ac i wrando ar gyngor y gwasanaethau argyfwng.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi cyhoeddi 12 Rhybudd Llifogydd a disgwylir cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd Difrifol ar gyfer Maes Glas i Fagillt a’r Parlwr Du ym Moryd Dyfrdwy, yn hwyrach y bore yma.
Mae Rhybuddion Llifogydd presennol mewn grym yn:
- Ynys Môn: Bae Traeth Coch
- Swydd Caer: Arglawdd Penarlâg
- Conwy: Ardal A Bae Cinmel
- Conwy: Llanddulas
- Conwy: Llanfairfechan
- Sir Ddinbych: Ardal A Prestatyn
- Sir Ddinbych: Ardal A Rhyl
- Sir y Fflint: Area A Ffynnongroyw
- Sir y Fflint: Ardal A Maesglas i Fagillt
- Sir y Fflint: Ardal A Y Parlwr Du
- Gwynedd: Bangor
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio pobl rhag ymweld â glannau’r môr hefyd, oherwydd y perygl iddynt gael eu cipio gan donnau mawr neu eu taro gan falurion a chwythwyd gan y gwynt.
Disgwylir i’r llanw uchel gyrraedd ei anterth tua 11.30 bore heddiw, yn nwyrain Sir Fôn a pharhau ar hyd yr arfordir at Sir y Fflint yn ystod y bore a’r prynhawn.
Bydd gweithwyr ymateb i argyfwng Cyfoeth Naturiol Cymru ym mannau allweddol, yn sicrhau bod amddiffynfeydd yn gweithio’n dda a bod unrhyw rwyllau draenio a sgriniau’n glir, i leihau’r perygl i bobl a’u cartrefi.