Datganiad rhagolygon llifogydd - 31/01/14
Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl ger yr arfordir Cymru i fod yn barod ar gyfer llifogydd yfory (Dydd Sadwrn, 1 Chwefror).
Daw’r rhybudd wrth i lanwau uchel, ynghyd â rhagolygon am wyntoedd cryfion achosi i’r môr orlifo amddiffynfeydd mewn mannau.
Awgryma’r rhagolygon y gallai’r llifogydd ar hyd yr arfordir fod cynddrwg ag yn nechrau Ionawr.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n disgwyl cyhoeddi cyfres o Rybuddion Llifogydd ar hyd arfordir Cymru gyfan.
Mae’r rhagolygon presennol yn dangos y gallai cyfuniad o lanwau uchel a gwyntoedd cryfion achosi llifogydd fore Sadwrn, ac eto nos Sul. Bydd llanwau uchel a gwyntoedd mawrion yn parhau yn yr wythnos nesaf, gyda phenllanw bore Llun eto’n bygwth achosi llifogydd ar y glannau.
Cynghorwn yn gryf i bobl gadw draw o bromenadau a glannau’r môr, gan y gallai tonnau mawrion eu cipio ymaith, neu falurion eu taro.
Bydd gweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru’n parhau i gadw golwg ar ein hamddiffynfeydd ar lannau’r môr a’r afonydd, er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio. Byddant yn clirio sbwriel ac yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol, yr heddlu a phartneriaid eraill er mwyn helpu sicrhau paratoi cymunedau cyn y penwythnos.
Bydd gwaith brys er mwyn cau bwlch yn amddiffynfa glan môr Llanbedr yn cael ei gwblhau heddiw. Er dydd Mercher, bu hofrennydd yn gosod 500 bag tywod enfawr yn y bwlch 50 medr o led, er mwyn gwrthsefyll y llanwau ac atal gwaethygu’r bwlch.
Mae ffordd fynediad at y bwlch agos wedi’i chwblhau. Bydd yn caniatáu dechrau trwsio’r bwlch â 15,000 tunnell o greigiau, pridd a chlai.
Diweddarir rhybuddion llifogydd pob 15 munud ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac y maent ar gael i’w gweld ar y dudalen hon.
Mae gwybodaeth a diweddariadau ar gael, hefyd, trwy alw Floodline ar 0345 988 1188