Mae cyfoeth Naturiol Cymru’n annog ffermwyr i fwrw golwg ar eu storfeydd silwair yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o lygru yn yr ardal yn ddiweddar.
Yn yr wythnos diwethaf yn unig, bu swyddogion amgylchedd i dair achos o lygru yn Sir Gaerfyrddin, ple’r roedd sudd silwair wedi gollwng o ffermydd i’r afon gyfagos.
Mae’n debyg mae’r cynnydd yn nifer o’r achosion o ganlyniad i’r toriad cyntaf yn ystod y tywydd gwlyb , wrth i ragor o silwair gwlyb gael ei roi yn y storfeydd. Arweiniodd hynny at gynhyrchu rhagor o sudd nag arfer.
Mae sudd silwair yn llygrwr cryf iawn, a dylid ei gyfyngu’n llwyr i danc neilltuedig, neu o fewn system storio slyri’r fferm.
Os yw storfeydd yn gorlifo, gall y sudd ollwng yn rhwydd, a chael ei ffordd i nentydd ac afonydd.
Yn ogystal ag effeithio ar ansawdd dŵr, y mae’n tynnu’r ocsigen o’r dŵr, gan effeithio ar bysgod a gweddill creaduriaid yr afon.
Dywedodd Jon Willington, arweinydd Tîm Rheoli’r Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn annog pob ffermwr i fwrw golwg ar ei storfa, rhag bod yno ollwng neu orlifo, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw sudd yn llifo’n anfwriadol o’r fferm.
“Deallwn fod y gwanwyn wedi effeithio’n galed ar gynhaeaf silwair llawer o ffermwyr, ond gall ein swyddogion ddarparu cymorth a chyngor ynglŷn â sut mae lleihau peryglon llygredd.
“Gall camau rhad, tros-dro fod yn effeithio ar gyfer cyfyngu sudd silwair yn y tymor byr, a gallwn gynghori yn eu cylch, yn ogystal ag ynghylch atebion mwy parhaol sy’n cyflawni gofynion y gyfraith.”
Dylai unrhyw un sy’n poeni am lygredd yn ei afon leol roi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru ar y llinell frys, 0800 807060.