Ffermwyr yn gwastraffu dim amser cyn cofrestru eithriadau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn diolch i ffermwyr am y modd y maent wedi ymateb i ymgyrch i gofrestru eu heithriadau gwastraff.
Mae hyn yn sicrhau bod modd iddynt ymdrin â’r gwastraff sydd ar eu tir mewn ffordd nad yw’n niweidio pobl na’r amgylchedd.
Fe gofrestrodd nifer o ffermwyr eithriad y tro diwethaf yn 2013. Ond mae’r eithriadau hyn yn awr ar fin dod i ben ac mae angen eu ail gofrestru.
Fis ers rhoi’r ymgyrch ar waith, mae mwy na 750 o ffermwyr eisoes wedi cofrestru, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi gwneud hynny ar-lein – nifer sylweddol uwch na’r un adeg yn 2013.
Fodd bynnag, mae miloedd angen cofrestru o hyd ac mae CNC yn eu hannog i wneud hynny cyn gynted ag y bo modd, yn hytrach nag aros tan y dyddiad cau ym mis Medi.
Un ffermwr sydd eisoes wedi cofrestru yw Andrew Wigley, ffermwr llaeth sy’n byw ger Y Trallwng.
Mae Andrew angen eithriad i losgi gwastraff gwyrdd, mewnforio papur gwastraff wedi’i ailgylchu ar gyfer deunydd gorwedd i’w wartheg, a defnyddio gwastraff adeiladu i greu llwybrau, er enghraifft.
Ar ôl clywed y gallai gofrestru ar-lein, edrychodd ar wefan CNC a chofrestrodd.
Meddai Andrew:
“Dair blynedd yn ôl fe wnes i gofrestru am eithriad gwastraff drwy’r post.
“Ond y tro yma, fe wnes i gofrestru ar-lein er mwyn osgoi’r drafferth o lenwi ffurflen â llaw a’i phostio.
“Roeddwn i’n falch iawn o weld pa mor hawdd oedd y broses – cymerodd lai na 10 munud imi.
“Braf oedd cael rhoi tic wrth ymyl y dasg yma ar fy rhestr faith o bethau i’w gwneud, ac rwy’n gwybod yn awr fod modd imi ddelio â fy ngwastraff ar y fferm heb drwydded am y tair blynedd nesaf.”
Gall peidio â chofrestru neu gydymffurfio ag eithriad gwastraff arwain at gosb ariannol i ffermwyr.
Hefyd, mae CNC yn atgoffa ffermwyr y byddent yn cyflawni trosedd pe baent yn mynd i’r afael â gweithred gwastraff heb gael eithriad neu drwydded.
Meddai Caroline Hawkins, Rheolwr Gofal Cwsmeriaid yn CNC:
“Rydym wedi creu’r system ar-lein er mwyn ceisio’i gwneud hi mor syml â phosibl i bobl gofrestru – ac mae’r dystiolaeth ers mis Gorffennaf yn awgrymu bod y bobl sy’n ei defnyddio yn cytuno.
“Ni ddylai gymryd llawer o amser i’w wneud, ac rydym yn annog ffermwyr i wneud hyn cyn gynted ag y bo modd yn hytrach nag aros tan ddiwedd y cyfnod tri mis.
“Mae ein hamgylchedd yn rhoi ein hanghenion sylfaenol inni – yr aer a anadlwn, y dŵr a yfwn a’r bwyd a fwytawn.
“Mae cofrestru’r eithriadau hyn yn dangos bod ffermwyr yn deall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i geisio gwarchod yr adnoddau naturiol gwerthfawr yma.”