Mae peirianwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n dechrau ar waith hanfodol i drwsio hen glawdd llifogydd Crindau yng Nghasnewydd ar ôl i ddifrod ddod i’w ran yn dilyn y llanw mawr a’r tywydd stormus a gafwyd yr wythnos diwethaf.
Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared â rhannau o’r clawdd allanol sydd wedi’u difrodi ar hyd llecyn 60 metr a chryfhau ei graidd trwy ei lenwi â chlai.
Yna, bydd deunyddiau concrid arbenigol yn cael eu defnyddio i leinio’r tu allan i’r clawdd er mwyn ei amddiffyn.
Bydd y gwaith yn cymryd rhyw wythnos i’w gwblhau, a rhoddir blaenoriaeth iddo fel y gellir amddiffyn trigolion yr ardal cyn i’r llanw mawr ddychwelyd y mis nesaf.
Mae’r gwaith hwn yn dilyn prosiect a roddwyd ar waith yn ddiweddar i ailosod rhan helaeth o’r cloddiau llifogydd gwreiddiol gan nad oeddynt bellach mewn cyflwr i amddiffyn trigolion yr ardal rhag llifogydd.
Meddai Craig Burdon, Arweinydd y Tîm Cyflawni Gweithrediadau yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Yn sicr, mae’r llanw uchel a’r tywydd stormus a gawson ni’r wythnos diwethaf wedi profi ein clawdd llifogydd newydd i’r eithaf, a phleser yw dweud ei fod wedi gwrthsefyll yr her ac wedi llwyddo i amddiffyn y gymuned leol rhag y môr.
“Yn ystod y llanw mawr roedd ein staff ar y safle’n cadw golwg ar y llanw ac ar berfformiad ein hamddiffynfeydd.
“Ar ôl gweld crac mewn rhan o’r hen glawdd, rydym bellach yn cymryd camau i’w drwsio’n ddi-oed fel y gall barhau i amddiffyn trigolion Crindau rhag llifogydd yn y dyfodol.”
Dylai pobl sy’n bryderus ynghylch llifogydd yn eu hardal ffonio Floodline ar 0345 988 1188 neu edrych ar cyfoeth naturiol cymru