Gwaith brys i ddiogelu Llanbedr
Mae cymorth awyr brys yn cael ei ddefnyddio yn Llanbedr er mwyn cau’r bwlch yn yr amddiffynfa morol cyn y llanw uchel yr ydym yn ei ddisgwyl y penwythnos hwn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi trefnu i hofrennydd ollwng bagiau tywod enfawr, diwydiannol eu maint, i’r bwlch, i gymryd pwysau’r llanw. Mae disgwyl llanw gyda’r uchaf a geir gydol y flwyddyn.
Mae’r gwaith yn cael ei wneud gyda chymorth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd â phrofiad o ddefnyddio hofrenyddion.
Llanw uchel yn gynharach yn y mis sydd i gyfrif am y difrod. Achosodd y llanw uchel, ynghyd â hyrddiad storm cryf, lifogydd a difrod i amddiffynfeydd arfordirol ar draws y wlad.
Yn Llanbedr, achosodd y storm fwlch 50 metr yn yr amddiffynfa, gyda’r canlyniad fod pum tŷ, y maes awyr a mwy na mil o aceri o dir amaethyddol yn cael eu gorlifo ddwywaith y dydd wrth i’r llanw ddod i mewn.
Dechreuodd y gwaith o adeiladu ffordd fynediad, fel bod cerbydau atgyweirio yn gallu cyrraedd y twll yn yr amddiffynfa, yn gynharach y mis hwn a dylai gael ei orffen erbyn diwedd mis Ionawr.
Wedyn, bydd gwaith i atgyweirio’r amddiffynfa gan ddefnyddio 15,000 tunnell o glogfeini, clai a phridd yn dechrau.
Ond, rhag ofn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gweithredu ar frys fel hyn rhag i’r llanw achosi rhagor o ddifrod y penwythnos hwn, ac i ddarparu amodau mwy diogel a sychach wrth wneud y gwaith atgyweirio.
Yn y cyfamser, mae swyddogion rhagweld llifogydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro rhagolygon y tywydd a lefelau’r llanw yn fanwl ar hyd arfordir Cymru gyfan wrth i’r penwythnos agosáu, i geisio rhagweld a fydd yr amodau’n cyfuno eto i greu storm debyg i’r un a gafwyd yn gynharach yn y mis.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Byddwn yn cadw llygad barcud ar y tywydd a rhagolygon y llanw dros y dyddiau nesaf wrth i’r darlun ddod yn gliriach.
“Mae’n bwysig pwysleisio nad oes disgwyl i’r llanw uchel achosi gormod o broblem ar ei ben ei hun. Dim ond pe bai hyrddiad storm yn cyd-daro’n union â’r llanw y caem ni amodau tebyg i’r hyn a welsom yn gynharach eleni – a dyna beth rydyn ni’n ei dracio.
“Er bod disgwyl i’r gwaith a gaiff ei wneud gan yr hofrennydd helpu, ni wnaiff ddal y môr yn ôl yn llwyr, ac rydym yn disgwyl i rywfaint o ddŵr môr dreiddio drwy’r bylchau ac efallai ddod dros y top. Os bydd yn llwyddiannus, fodd bynnag, bydd yn lleihau faint o lifogydd a geir yn yr ardal hon yn ystod llanw uchel yn sylweddol.
“Ar ôl y llifogydd arfordirol diweddar, aseswyd pob un o’n hamddiffynfeydd arfordirol i weld a oedd difrod wedi’i achosi, a bydd gennym staff allan yma ac acw yr wythnos hon yn gwneud yn siŵr fod yr amddiffynfeydd mewn cyflwr da ar gyfer llanw’r penwythnos.”