Sesiynau galw heibio lle gall pobl holi am gwympo coed yng nghoedwig Cwmcarn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwahodd pobl sy’n byw ger coedwig Cwmcarn, neu sy’n ei mwynhau, i ddod draw i ganfod mwy am y bwriad i gau Ffordd y Goedwig. Mae hwn yn angenrheidiol fel y gellir cwympo coed yno er mwyn ceisio taclo clefyd sy’n lladd coed llarwydd. Coed llarwydd yw 78% o’r coed sy’n tyfu ar hyd y ffordd. 10am – 2pm Dydd Sul 21 Medi 10am – 2pm Dydd Llun 22 Medi Canolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cau Ffordd y Goedwig yn ddiweddarach eleni fel y gellir cwympo llawer o goed llarwydd sy’n dioddef o glefyd hynod heintus na ellir ei drin.
Bydd Ffordd y Goedwig, sef ffordd saith milltir o hyd trwy goedwig Cwmcarn, yn cau Ddydd Sul 2 Tachwedd 2014 er mwyn caniatáu i dimau fynd ati’n ddiogel i baratoi, cwympo a symud mwy na 150,000 o goed heintiedig oddi ar fwy na 162 hectar (400 acer) o dir.
Bydd gweddill yr atyniad, gan gynnwys y ganolfan ymwelwyr, y mannau chwarae, y llwybrau troed a’r llwybrau beicio mynydd, ar agor fel arfer drwy gydol y flwyddyn.
Bu’n rhaid gwneud y penderfyniad anodd i gau ffordd y goedwig gan na fyddai hi’n ddiogel nac yn ymarferol i fodurwyr ei defnyddio a ninnau’n mynd ati i gwympo a chynaeafu coed yno.
Meddai Andy Schofield, Rheolwr Tir Rhanbarthol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Deallwn fod nifer o bobl yn bryderus ynglŷn â’r gwaith cwympo ac maen nhw wedi holi pam mae’n rhaid inni gau’r ffordd. Dyna pam rydym wedi trefnu’r sesiynau yma.
“Gall pobl ddod draw a gofyn cwestiynau i’n staff ynglŷn â’n gwaith a’n cynlluniau ar gyfer dyfodol y goedwig.
“Hefyd, rydym eisiau tawelu meddyliau pobl mai ein nod ar gyfer y goedwig yn yr hirdymor yw adfer a chyfoethogi’r ardal fel y gall barhau i fod yn atyniad gwych, yn ogystal â pharhau i fod yn bwysig i drigolion ac economi’r ardal.”
Os bydd pobl yn methu â mynd i’r sesiynau galw heibio, gallant anfon eu cwestiynau i’r cyfeiriad e-bost cwmcarn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Bydd yr atebion yn cael eu rhoi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.