Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiad fod yna bysgod marw yn Afon Tarell ac Afon Wysg ger Aberhonddu.
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ar ôl i unigolyn pryderus roi gwybod inni fod yna o leiaf 40 o bysgod llawndwf marw yn yr afon. Roedden nhw wedi gweld eogiaid, brithyllod a physgod breision.
Mae swyddogion CNC wedi ymweld â’r afonydd ac wedi dod o hyd i ffynhonnell bosibl y llygredd a chymryd samplau dŵr.
Meddai Steve Morgan, Rheolwr Gweithrediadau yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae ein hafonydd yn gartref i rywogaethau toreithiog, amrywiol a gwerthfawr o blanhigion ac anifeiliaid, felly mae’n bwysig inni ddelio â llygredd cyn gynted â phosibl.
“Rydym yn ymchwilio i bob adroddiad o bysgod marw yn ein hafonydd, ac mae’r ymchwiliad hwn yn parhau.
“Nid oes unrhyw arwydd amlwg o lygredd bellach ac mae’r dŵr erbyn hyn yn glir, ond byddwn yn parhau i ymchwilio er mwyn ceisio cadarnhau’r achos.
“Os oes gennych unrhyw wybodaeth, neu os gwelwch bysgod mewn trafferth, rydym yn eich annog i roi gwybod inni trwy ffonio 0300 065 3000 a phwyso botwm 1 (gwasanaeth 24 awr).”