Ar drywydd gyrwyr anghyfreithlon yn ein coedwigoedd

Mae pobl sy’n ystyried gyrru cerbydau a beiciau modur oddi ar y ffordd trwy goedwigoedd Cymru y Pasg hwn yn cael eu rhybuddio i feddwl eto gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r heddlu.
Mae'r arfer yn beryglus, yn difetha mwynhad ddefnyddwyr cyfreithlon y goedwig, difrodi’r amgylchedd ac yn gwastraffu arian trethdalwyr yn atgyweirio'r difrod maent yn ei achosi.
Daw'r rhybudd ar ôl i swyddogion gorfodaeth gyfweld pedwar o feicwyr modur y penwythnos diwethaf ar amhaeaeth o yrru beiciau modur yn anghyfreithlon yng nghoedwigoedd Gogledd Ddwyrain Cymru.
Dywedodd Paula Harley, Rheolwr Adnoddau Gweithredol CNC yng Ngogledd Cymru: "Mae ein coedwigoedd ac ardaloedd mynediad agored yn llefydd gwych i bobl ymlacio a mwynhau natur.
"Rydym yn awyddus i wneud yn siwr y gallant wneud hynny mewn heddwch ac rydym yn cymryd camau i atal gweithgareddau anghyfreithlon fel hyn."
Dywedodd fod pedwar o feicwyr wedi eu cyfwelwyd dros y penwythnos diwethaf a bod dau wedi cael gamau gorfodi yn eu herbyn ar ôl ymgyrch yng nghoedwigoedd Clocaenog, Corwen a Ceiriog.
Ychwanegodd Paula Harley: "Roedd ymgyrch y penwythnos diwethaf gyda uned arbenning o Heddlu Gogledd Cymru yn llwyddiant mawr.
"Nid yn unig o safbwynt gorfodaeth ond hefyd oherwydd in ni gael cyfle i siarad â phobl sy'n defnyddio'r goedwig i egluro beth rydym yn ei wneud a phwysigrwydd diogelu ein coedwigoedd."