Ymgynghoriad i warchod ardaloedd môr pwysig
Noder os gwelwch yn dda fod y cyfnod ymgynghori wedi cael ei ymestyn hyd at hanner nos 3 Mai 2016.
Heddiw (Dydd Mawrth 19 Ionawr) caiff ymgynghoriad i geisio gwarchod rhai o greaduriaid morol mwyaf gwerthfawr Cymru ei lansio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Daw’r cynigion i greu chwech o ardaloedd morol newydd dan warchodaeth ar ôl i CNC ac asiantaethau cadwraeth eraill ar draws y DU dreulio sawl blwyddyn yn astudio nifer o rywogaethau, ynghyd â’r lleoedd y maent yn treulio’u hamser.
Os cytunir ar yr ardaloedd hyn, byddant yn helpu i ddiogelu cynefinoedd poblogaethau rhyngwladol bwysig o lamidyddion a nifer o adar môr, gan gynnwys adar drycin Manaw, trochyddion gyddfgoch, palod a môr-wenoliaid. Mae’r dyfroedd o amgylch Cymru yn arbennig o bwysig i’r rhywogaethau hyn.
Ynghyd a gwledydd Ewropeaidd eraill, mae gan Gymru gyfres o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) yn barod ar dir a môr, a bydd yr ardaloedd newydd arfaethedig yn ychwanegu at y rhwydwaith hwn, a elwir yn rhwydwaith Natura 2000, sydd â’r nod o warchod bioamrywiaeth ar draws yr UE i gyd.
Meddai Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio ar ran CNC:
“Mae’r safleoedd hyn nid yn unig yn werthfawr oherwydd eu bywyd gwyllt, ond maen nhw hefyd yn cynnwys rhai o forluniau harddaf a mwyaf gwerthfawr Cymru.
“Maen nhw’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cyfoethogi ansawdd bywydau’r bobl sy’n byw ynddyn nhw ac o’u hamgylch.
“A chaiff rhwydwaith presennol Cymru o ACA ac AGA morol eu defnyddio hefyd ar gyfer amryw byw o weithgareddau, gan gynnwys gweithgareddau hamdden, pysgodfeydd, ynni a llongau.
“Rydym yn gweithio gyda phob un o ddefnyddwyr yr amgylchedd morol i ddod o hyd i ffyrdd sy’n caniatáu defnydd cynaliadwy o’r môr, tra’n gwarchod rhannau pwysig o’r amgylchedd yr un pryd.”
Bydd yr ymgynghoriad ar waith tan 19 Ebrill, a chaiff ei gydlynu gydag ymgynghoriadau’n ymwneud ag ACA morol arfaethedig eraill ar gyfer y llamhidydd yn nyfroedd alltraeth Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r DU.
Bydd y penderfyniadau terfynol ynghylch dynodi ACA ac AGA yn nyfroedd Cymru yn cael eu gwneud gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn Llywodraeth Cymru.