Ymgynghoriad yn cychwyn ynghylch ynni o gyfleuster gwastraff yng Nghwmgwili
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwahodd pobl i gyflwyno sylwadau ynghylch cais gan Clean Power (UK) Limited am drwydded amgylcheddol i gyfleuster i adfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu o wastraff masnachol a domestig yng Nghwmgwili, ger Crosshands.
Yn awr, bydd y rheoleiddiwr amgylcheddol yn cynnal asesiad manwl o gynigion y cwmni, i ganfod a fydd modd i’r cyfleuster weithredu gan effeithio gyn lleied ag sydd bosibl ar drigolion yr ardal a’r amgylchedd.
Fel rhan o’r asesiad, gofynnir i’r gymuned leol a sefydliadau allweddol fel y Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno sylwadau a gwybodaeth berthnasol.
Dim ond os bydd yn fodlon na fydd y cyfleuster yn niweidio iechyd trigolion yr ardal nac yn niweidio’r amgylchedd y bydd y sefydliad yn caniatáu’r drwydded.
Meddai Mary Youell, o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Byddwn yn mynd ati i asesu’r cynigion yn fanwl cyn penderfynu a fydd y fenter yn cael bwrw ymlaen, ai peidio."
“Mae hwn yn gais am gyfleuster i adfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu o wastraff masnachol a domestig. Bydd y gwastraff gweddilliol yn cael ei losgi mewn gwaith pyrolysis i gynhyrchu trydan. Bydd trydan ychwanegol hefyd yn cael ei gynhyrchu drwy losgi nwy a gynhyrchir o fwyd gwastraff drwy broses dreulio anaerobig.”
“Rydym yn croesawu sylwadau gan y gymuned leol, yn cynnwys gwybodaeth a allai fod yn berthnasol i’r cais."
“Os gwnawn ni ganiatáu’r drwydded, bydd yn cynnwys amodau llym er mwyn gwarchod pobl a’r amgylchedd, a bydd yn cael ei rheoleiddio’n ofalus gan ein swyddogion drwy gydol yr amser y bydd ar waith.”
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar waith tan Ddydd Llun 1 Rhagfyr 2014.
Gall pobl weld y cais yn swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru ym Maes Newydd, Llandarsi, Castedd-nedd, Port Talbot, SA10 6JQ. Mae’r Gofrestr Gyhoeddus ar agor Ddydd Llun i Ddydd Gwener (ac eithrio ar Ŵyl y Banc), 9.30am tan 4.30pm. Cyn ymweld, cynghorir pobl i ffonio 01792 325526 i siarad ag aelod o staff a all gynorthwyo, darparu cyngor technegol ac ateb cwestiynau.
Hefyd, gellir gofyn am gopïau electronig o permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk .