Gwaith adeiladu i ddechrau ar gynllun llifogydd £10m

Bydd y gwaith o adeiladu cynllun newydd i amddiffyn mwy na 660 o adeiladau rhag llifogydd yn Ne Ddwyrain Cymru yn dechrau yn yr hydref.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi’r contract ar gyfer adeiladu’r cynllun llifogydd yng Nghrindau, Casnewydd, i Galliford Try.
Bydd y cynllun arfaethedig yn ymestyn ar hyd glannau Afon Wysg a Chrindau Pill, isfaon yr Wysg, rhwng traffordd yr M4 a’r brif reilffordd.
Rhaid i’r contractwyr fodloni nifer o amodau cyn y gellir cychwyn ar y gwaith.
Bydd y gwaith yn cychwyn gyda’r contractwr yn gosod dalennau cynnal i’r gogledd o bont Heol Lyne ac yn adeiladu argloddiau pridd a muriau llifogydd i’r de o’r bont.
Fe fydd y prif safle wrth ymyl Harold John Ltd ar Stryd Adelaide.
Bydd y cynllun hefyd yn cyflwyno gwelliannau i’r amgulchedd lleol ac yn creu man amwynderau newydd.
Bydd arglawdd yn mynd trwy Barc Shaftesbury a bydd terasau glaswellt yn cael eu creu fel y gall pobl eistedd yno a gwylio gemau ar y maes chwarae. Ymhellach, bydd y parc yn elwa ar lwybrau troed a llwybrau beicio newydd, yn ogystal â choed a llwyni.
Meddai Tim England, Rheolwr Perygl Llifogydd y De Ddwyrain yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Keeping communities safe from flooding is one of our key roles and there is a long history of tidal flooding in Crindau.
“Mae cadw ein cymunedau’n ddiogel rhag llifogydd yn un o’n prif rolau ac mae gan Grindau hanes hir o ddioddef llifogydd llanwol.
“Yn ddiweddar, mae’r ardal bron iawn wedi dioddef llifogydd fwy nag unwaith wrth i ymchwydd yn y llanw ddigwydd yr un pryd â llanwau mawr.
“Bydd y cynllun hwn yn gam pwysig tuag at leihau perygl llifogydd i drigolion a busnesau lleol, yn ogystal â gwella’r amwynderau amgylcheddol.
“Ni allwn rwystro llifogydd rhag digwydd bob amser, ond mewn ardaloedd fel Crindau mae modd inni gymryd camau i wneud hyn y llai tebygol o ddigwydd.
“Rydym yn hyderus y bydd y cynllun newydd hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghrindau, sydd wedi byw gyda bygythiad llifogydd ers blynyddoedd lawer.”
Gall pobl sy’n dymuno cael mwy o wybodaeth, ynghyd â’r newyddion diweddaraf am gynllun rheoli perygl llifogydd Crindau, edrych ar http://cyfoethnaturiol.cymru/crindau.
Gall pawb sy’n bryderus ynghylch llifogydd gadarnhau lefel y risg a darganfod a oes gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim i’w gael yn eu hardal trwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 neu edrych ar http://www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd