
Cais am wybodaeth yn dilyn llygredd yn Afon Dyfrdwy
Mae CNC yn gofyn i’r cyhoedd a busnesau lleol am unrhyw wybodaeth a allai eu helpu i ddod o hyd i ffynhonnell y llygredd.
Cafodd mannau tynnu dŵr ar Afon Dyfrdwy eu cau dros y penwythnos er mwyn diogelu’r cyflenwad dŵr yfed. Mae CNC yn parhau i weithio’n agos gyda’r cwmnïau dŵr a’r Environment Agency yn yr ardaloedd dan sylw.
Meddai Mark Chapman o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym wedi bod yn gweithio gyda Environment Agency i geisio dod o hyd i ffynhonnell y llygredd ac unrhyw effaith bosibl ar yr amgylchedd dros y penwythnos.
“Nid yw ein hasesiadau cychwynnol yn dangos unrhyw arwydd o bysgod marw neu bysgod mewn trafferth, ac erbyn hyn mae’r amonia yn Afon Dyfrdwy yn dychwelyd i’w lefel arferol.”
“Er ein bod wedi cymryd nifer o samplau dŵr ac wedi ymweld ag adeiladau yn yr ardal, hyd yn hyn nid ydym wedi gallu cadarnhau pa un a yw’r llygredd wedi tarddu o arferion ffermio ynteu o weithgareddau diwydiannol.”
“Os oes gan unrhyw un wybodaeth am ddigwyddiad a allai fod wedi arwain at y llygredd hwn, gallant roi gwybod inni’n gyfrinachol trwy ffonio ein llinell argyfwng ar 0800 807060.”