Arddangos cynllun llifogydd Afon Tregatwg

Caiff pobl sy’n byw ac yn gweithio yn Ninas Powys a Sully Moors eu gwahodd i ddigwyddiad ‘galw heibio’ Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) er mwyn darganfod mwy am gynlluniau i leihau’r perygl llifogydd yn yr ardal.
Mae gan fwy na 300 o adeiladau siawns o 1% o ddioddef llifogydd mewn unrhyw flwyddyn yn sgil Afon Tregatwg ac East Brook.
Yn awr, mae CNC yn ystyried dewisiadau ar gyfer lleihau tebygolrwydd llifogydd yn yr ardal ar ôl i nifer o adeiladau ddioddef llifogydd yn 2012.
Bydd y digwyddiad galw heibio’n cael ei gynnal yn Llyfrgell Gymunedol Dinas Powys ar 8 Tachwedd 2017, rhwng 2.00pm a 7.30pm. Bydd CNC yno i roi trosolwg i drigolion yr ardal o’r perygl llifogydd presennol ac i siarad gyda hwy am y dewisiadau sy’n cael eu hystyried i leihau’r perygl.
Meddai Tim England, Rheolwr Perygl Llifogydd yn CNC:
“Mae cadw cymunedau’n ddiogel rhag llifogydd yn agwedd bwysig ar ein gwaith.
“Rydym eisiau i bobl ddod draw fel y gellir codi ymwybyddiaeth ynghylch llifogydd a dysgu mwy am sut y gallai llifogydd effeithio arnynt hwy, a sut rydym yn bwriadu lleihau’r risg.
“Byddwn yno i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl a gwrando ar eu barn ynglŷn â’r gwahanol ddewisiadau sy’n cael eu hymchwilio ar gyfer rheoli llifogydd.
“Mae’r adborth a gawn yn bwysig a bydd yn cael ei ystyried wrth inni barhau i asesu’r dewisiadau hyn, gan bwyso a mesur manteision ac anfanteision pob un, tra’n ystyried y ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
“Cofiwch alw heibio am sgwrs – byddem yn gwerthfawrogi eich sylwadau.”
Gall y rheini sy’n dymuno cael mwy o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am arfarniad y cynllun edrych ar www.cyfoethnaturiol.cymru/afontregatwg.
Gall pwy bynnag sy’n pryderu am lifogydd wirio’u perygl llifogydd a darganfod a oes gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim ar gael yn eu hardal trwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 neu edrych ar www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd.