Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Gwella amgylchedd gwenyn mewn perygl – yn y Gaeaf

Efallai nad yw’r tywydd hanner mor gynnes â’r hyn a gysylltwn â gwenyn fel arfer, ond dyma’r adeg berffaith ar y flwyddyn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wella’r cynefin ar gyfer un math arbennig o wenynen sydd mewn perygl mawr yn y DU.

Ers talwm, roedd y Saerwenynen Fawr (Osmia xanthomelana) i’w gweld dros ardal eang yn Lloegr, ond yn y pen draw cafodd ei chyfyngu i un safle’n unig ar Ynys Wyth, lle gwelwyd hi y tro diwethaf yn 1994.

Roedd wedi’i chofnodi ar lond llaw o safleoedd yng ngogledd Cymru rhwng 1898 ac 1921, ond ni chafodd ei gweld wedyn tan 1998 ym Mhorth Ceiriad ac yn 1999 ym Mhorth Neigwl, Pen Llŷn.

Mae’r ddau safle’n dal i gynnal y wenynen, yr unig safleoedd drwy’r DU i wneud hynny bellach.

Ond mae’r poblogaethau’n fach, dim mwy na 50 o wenyn benywaidd, ac maent dan fygythiad o ddiflannu am byth.

Mae’r gwenyn benywaidd yn nythu mewn clogwyni tywodlyd meddal, sy’n dioddef llawer yn sgil erydiad a thirlithriadau disymwth – dyma sydd wrth wraidd eu diflaniad o Ynys Wyth, yn ôl pob tebyg.

Mewn ymdrech i leihau’r perygl y bydd poblogaeth Porth Neigwl yn diflannu oherwydd erydiad, cafodd pymtheg o fanciau tywod eu cloddio ymhellach i’r tir yn 2011 er mwyn cynnig mannau nythu amgen i’r gwenyn. Cofnodwyd deg nyth yn un o’r cynefinoedd newydd hyn y gwanwyn wedyn.

Yn gynharach yr hydref hwn, cafodd mwy o waith ei wneud i greu banciau tywod ychwanegol a pharhau i wella’r mannau nythu gwreiddiol.

Fel yr esbonia Dr Mike Howe, Ecolegydd Creaduriaid Di-asgwrn-cefn CNC: “Rydym wedi bod yn crafu llecynnau bach o dyweirch oddi ar gae ym Mhorth Neigwl er mwyn creu rhyw fath o arwyneb meddal sy’n efelychu safleoedd nythu naturiol y Saerwenynen Fawr.

“Erbyn hyn rydym wedi cwblhau’r cam hwn yn ein gwaith o adfer y cynefin, a’n gobaith yw y bydd y gwenyn yn symud i’r lle newydd, mwy diogel, hwn ac y bydd y boblogaeth yn cynyddu.”

Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Buglife Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith fod saith math o wenynen eisoes wedi diflannu o Gymru, a bod pum math arall mewn perygl mawr o ddiflannu. Mae’r Saerwenynen Fawr yn un o’r rhain.

Meddai Clare Dinham o Buglife Cymru: “Mae’r adroddiad ar wenyn sydd dan fygythiad yng Nghymru yn tynnu sylw at ddirywiad yn ein gwenyn gwyllt. Er y gall hyn fod yn destun pryder, mae yna gamau cadarnhaol y gellir eu cymryd i wrthdroi’r sefyllfa, fel adfer a chysylltu cynefinoedd.

“Mae cynefin nythu’n hollbwysig i wenyn unigol er mwyn iddynt allu cwblhau eu cylch bywyd. Bydd gwaith a wneir gan CNC i reoli a chreu safleoedd nythu newydd ar gyfer y Saerwenynen Fawr yn helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor y rhywogaeth hynod brin hon ym Mhen Llŷn.”

Mae CNC yn gweithio ochr yn ochr â Thasglu Pryfed Peillio Llywodraeth Cymru er mwyn annog mwy o bobl i gymryd camau i geisio gwarchod rhai o’n creaduriaid mwyaf gwerthfawr.

Drwy’r byd, mae miloedd o wahanol fathau o wenyn yn bryfed peillio ar gyfer amrywiaeth enfawr o blanhigion. Mae un o bob tair cegaid o fwyd y byddwn ni’n ei bwyta wedi’i chreu trwy beillio.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.