Coedwig Ffosiliau Brymbo’n cael cydnabyddiaeth genedlaethol

Mae coedwig ffosiliau ym Mrymbo, ger Wrecsam, sy’n hŷn na chyfnod y dinosoriaid, wedi cael ei dynodi’n safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r safle, sydd bron yr un maint â hanner cae pêl-droed, yn cynnwys amrywiaeth anhygoel o blanhigion a choed ffosiledig sy’n 300 miliwn o flynyddoedd oed, gan ei wneud yn safle o safon fyd-eang ar gyfer ffosiliau planhigion.
Gweddillion planhigion a arferai dyfu mewn amgylchiadau poeth a llaith ger y cyhydedd yw’r rhain – ac maent yn cynnwys 20 ffosil o gnwpfwsoglau mawr, sy’n debyg iawn i foncyffion coed enfawr.
Cafodd y goedwig ffosiliau ei datgelu am y tro cyntaf yn 2004 ar hen safle gwaith haearn a dur Brymbo. Mae rhan helaeth o weddillion y goedwig wedi’i chladdu o hyd, er mwyn ei gwarchod.
Mae cynlluniau ar y gweill, dan arweiniad Grŵp Treftadaeth Brymbo, i greu canolfan ymwelwyr a chloddio ar y safle, a fydd yn sicrhau amodau priodol ar gyfer astudio ac arddangos y ffosiliau bregus hyn.
Meddai Raymond Roberts, daearegwr CNC: “Bydd y dynodiad SoDdGA yn helpu i ddiogelu’r goedwig ffosiliau ar gyfer y dyfodol fel adnodd gwyddonol ac addysgol heb ei ail.
“Wrth gwrs, mae ffosiliau’n boblogaidd iawn, a thrwy ddatblygu’r safle gyda’r arbenigedd a’r gofal priodol mae ganddo’r potensial o ddod yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, gan gyfrannu at economi’r ardal.”
Meddai Gary Brown, o Grŵp Treftadaeth Brymbo: “Mae gan y safle stori ryfeddol i’w hadrodd, gan gysylltu’r hanes daearegol gyda threftadaeth ddiwydiannol Brymbo. Ein nod yw sicrhau arian mewn pryd i agor y ganolfan ymwelwyr a chloddio yn ystod haf 2018.”
Yn y cyfamser, mae Grŵp Treftadaeth Brymbo yn trefnu teithiau cerdded tywysedig, diwrnodau agored a digwyddiadau cloddio cymunedol er mwyn galluogi pobl i weld y goedwig ffosiliau a’r dreftadaeth ddiwydiannol.
Mae’r digwyddiadau nesaf yn cynnwys diwrnodau agored Ddydd Sadwrn 15 Awst a Dydd Sadwrn 26 Medi. I drefnu ymweliad, cysylltwch â Gary Brown, Swyddog Treftadaeth, Grŵp Treftadaeth Brymbo ar 0800 772 0981.
Mae’r dynodiad SoDdGA yn dilyn gwaith i warchod y safle gan y tirfeddiannwr, Brymbo Developments, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Amgueddfa Cymru, Geoconservation Cymru a Grŵp Treftadaeth Brymbo.
Mae rhai o’r ffosiliau gorau a phrinnaf wedi eu symud ymaith, a chânt eu cadw yn Amgueddfa Cymru. Byddant yn cael eu dychwelyd i Frymbo i fod yn rhan o arddangosfa gyhoeddus, cyn gynted ag y bydd adeilad addas i’w gael.
Mae’n drosedd symud ffosiliau ymaith neu niweidio Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.