Mentro’n gall ac aros yn ddiogel o gwmpas dŵr

Llun o deulu yn rhedeg ar draeth ger y môr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i bobl #MentronGall a chymryd camau ychwanegol i gadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel o gwmpas dŵr wrth iddynt fynd allan i’r awyr agored i fwynhau arfordir a chefn gwlad Cymru.

Mae Mentro’n Gall yn ymgyrch aml-asiantaeth sy'n ceisio sicrhau bod pobl yn cael eu hysbysu a'u paratoi cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ac wrth i wyliau'r ysgol ddechrau, gallai’r ffaith fod pyllau nofio wedi cau arwain at bobl nofio ar yr arfordir neu'n fewndirol mewn afonydd neu lynnoedd.

Mae risg ychwanegol i nofio yn yr awyr agored na fydd pobl sy'n newydd i'r gweithgaredd neu'r lleoliad yn ymwybodol ohonynt. Gall gwrthrychau cudd o dan yr wyneb, effaith dŵr oer ar y corff, a pheryglon dŵr sy’n symud arwain pobl i drafferthion yn gyflym.

Dywedodd Joe Roberts, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol: Mynediad a Hamdden Awyr Agored, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Wrth i ni groesawu ymwelwyr yn ôl i’n safleoedd, hoffem ofyn i bobl gymryd gofal ychwanegol mewn dŵr ac o’i amgylch, i amddiffyn eu hunain ac osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys yn ystod y cyfnod prysur hwn.

“Mae'n ddealladwy bod pobl yn chwilio am rywle i oeri ar ddiwrnod poeth, ond mae nofio gwyllt yn brofiad gwahanol iawn i nofio dan do.

“Mae angen i bobl fod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain ac eraill gan asesu’r risgiau cyn iddyn nhw fynd i mewn i’r dŵr a thalu mwy o sylw i’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas.

“Os ydych chi'n rhiant, gallwch chi helpu trwy siarad â'ch plant am y peryglon o fod mewn dŵr a'r hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud i fentro’n gall."

Meddai’r Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael croesawu ymwelwyr yn ôl i Gymru mewn ffordd sy'n ddiogel i'r gymuned ac i ymwelwyr.  Mae cynnydd mawr wedi bod yn y diddordeb mewn nofio gwyllt dros y blynyddoedd diwethaf. Ac nid oes unman gwell bron i fwynhau'r math yma o weithgaredd awyr agored nag yn nhirweddau enfawr Cymru. 

“Mae nofio mewn dŵr agored yn brofiad tra gwahanol i nofio mewn pwll. Mae'r cerrynt anweledig, dŵr oer a thonnau yn gwneud nofio gwyllt yn fwy o her o lawer.  Rydym yn gofyn i’r rhai sy’n mynd i’r dŵr fod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain a diogelwch pawb sydd gyda nhw drwy asesu’r risgiau cyn mentro i’r dŵr a bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’u hamgylch.”

Dilynwch y camau hyn i'ch helpu i gadw'n ddiogel mewn dŵr ac o’i amgylch

  • Os yw’n bosibl, dewiswch draeth ag achubwyr bywydau arno a nofiwch rhwng y baneri coch a melyn, ond ni all yr achubwyr bywyd fod ar bob traeth yr haf hwn felly mentrwch yn gall i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel
  • Gwiriwch amseroedd y llanw cyn nofio yn y môr a dyfroedd aberol fel nad ydych chi'n cael eich tynnu gan y llanw.
  • Cadwch o fewn eich terfynau - os yw'r dŵr yn edrych yn arw, peidiwch â mynd i mewn.
  • Peidiwch â defnyddio offer wedi’u llenwi ag aer – gallant eich tynnu allan i'r môr, â  chithau neu'ch plentyn arnyn nhw.
  • Os yw’n bosibl, gwisgwch gap gwelededd uchel ac ewch â dyfais arnofio gyda chi.
  • Os ydych chi'n mynd i drafferthion yn y dŵr, peidiwch â chynhyrfu, arhoswch yn ddigynnwrf; ceisiwch dynnu sylw rhywun trwy godi'ch llaw a gweiddi am help.
  • Ewch i mewn i'r dŵr yn araf. Os byddwch chi'n cwympo i mewn ar ddamwain, ceisiwch ymladd yn erbyn eich greddf i nofio nes bod sioc y dŵr oer yn mynd heibio; ymlaciwch ac arnofiwch ar eich cefn nes y gallwch reoli eich anadlu.

Os ydych chi'n gweld rhywun sydd mewn trafferth yn y dŵr, mae'n well galw am help yn hytrach na rhoi eich hun mewn perygl. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau os ydych chi ar y traeth, neu'r Gwasanaeth Tân ac Achub os ydych chi mewn yn y tir.

Dewch o hyd i sut i gael amser diogel a difyr yn yr awyr agored yn Adventure Smart UK, a dilynwch y cyngor yng Nghod y Glannau a Chod Nofio yn y Gwyllt - rhan o deulu'r Cod Cefn Gwlad.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru