Apêl i archwilio am ollyngiadau olew

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cymryd camau i atal olew rhag cael effaith ddifrifol ar nant ger Ceinewydd, a allai effeithio ar fywyd gwyllt yr ardal.
Defnyddiodd swyddogion badiau amsugnol i lanhau’r olew ar ôl ei ganfod mewn ffos rhwng Heol y Gof a Phencnwc Isaf. Roedd arogl tanwydd cryf hefyd y tu ôl i’r tai ym Mharc yr Efail.
Bu’r swyddogion yn ymweld â thai yn yr ardal ond hyd yma nid ydynt wedi dod o hyd i’r ffynhonnell. Nawr mae CNC yn gofyn i bobl yn Cross Inn, ger Ceinewydd, archwilio eu tanciau a’u pibellau olew ar ôl y digwyddiad.
Meddai Jeremy Goddard, Swyddog Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Gall olew niweidio afon a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddi, fel pysgod, pryfed ac adar. Nid yw’n bleserus chwaith i bobl sy’n byw gerllaw.
“Er ein bod wedi gallu rhwystro’r llygredd rhag cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd, rydym yn bryderus na ddaethpwyd o hyd i ffynhonnell y llygredd.
“Os oes gennych unrhyw gyfleusterau storio olew neu ail-lenwi tanwydd yn yr ardal, archwiliwch hwy am ollyngiadau neu ddifrod.
“Os nad oes unrhyw arwyddion o ddifrod, dylech ystyried a yw eich lefelau olew yr hyn ddylent fod neu a ydych yn defnyddio mwy o olew nag y byddech yn ei wneud fel arfer yr adeg hon o’r flwyddyn.
“Gallai hyn fod yn arwydd fod olew yn gollwng dan y ddaear heb ichi fod yn ymwybodol o hynny.”
Os oes gan bobl unrhyw wybodaeth sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad neu os ydynt angen cyngor ynglŷn â beth i’w wneud os byddant yn darganfod gollyngiad, dylent gysylltu â llinell gymorth CNC : 0300 065 3000.