Defnyddio’r Amazon i ddatrys llygredd dŵr yng Nghymru

Efallai y gall dalgylch yr Amazon gynnig ffordd o ddatrys problemau llygredd metalau gwenwynig yn afonydd Cymru.
Mae Jonathan Jones, sy’n Uwch Swyddog Amgylchedd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi bod yn ymchwilio dulliau o echdynnu llygrwyr o afonydd gan ddefnyddio hiasinthau dŵr.
Dangoswyd mewn treialon y gallai defnyddio’r planhigyn isdrofannol o’r Amazon fod yn ddull llwyddiannus, a diogel i’r amgylchedd, o ddatrys y broblem.
Llwyddwyd i echdynnu 100% o’r cadmiwm, cobalt, a manganîs yn yr afon, yn ogystal ag 80% o’r sinc, dros gyfnod o dair wythnos.
Ar ôl tair wythnos, cafodd y planhigion eu tynnu o’r dŵr i atal y metalau rhag dychwelyd i’r afon drachefn.
Gellir defnyddio’r planhigion wedyn i gynhyrchu biodanwydd ar ffurf briciau tanwydd, neu gompost. Os yw’r crynodiadau’n ddigon uchel mae modd echdynnu’r metalau a’u hailddefnyddio.
Roedd yr ymchwil yn rhan o archwiliad o afon Nant-y-fendrod yn Abertawe, afon sy’n methu â chyrraedd safonau ansawdd dŵr.
Dywedodd Jonathan Jones:
“Mae’r canlyniadau yn galonogol iawn, a gallent fod yn ddylanwadol iawn.
“Yn ogystal â glanhau ein hafonydd, gall y dechneg yma fod yn gymorth i ddarparu dŵr sy’n ddiogel i’w yfed mewn gwledydd datblygedig, ac i ymateb i rai o ganlyniadau penodol newid hinsawdd, gan gynnwys delio gyda rhywogaethau anfrodorol ymledol.
“Petai’r planhigyn yn ymsefydlu yn hemisffer y gogledd o ganlyniad i newid hinsawdd, gallai ei ddefnyddio yn y modd yma fod yn ddull priodol o reoli ei ledaeniad.
“Mae hiasinth y dŵr yn cael ei ystyried fel chwyn mewn rhannau o’r byd lle mae’r rhywogaeth yn ffynnu ac yn peri problemau.
“Gall dyfu’n ormodol, a gall y costau o’i chwynnu’n fecanyddol fod yn sylweddol.
“Mae hi’n ddrud hefyd i gael gwared â’r miliynau o dunelli a chwynnir yn flynyddol, claddfeydd ysbwriel sy’n cael eu defnyddio ran amlaf.
“Trwy ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ffytoadferol, sef y defnydd o blanhigion naturiol i dynnu llygredd o ddŵr a daear, gallwn gynnig ffordd amgenach o ddefnyddio’r deunydd trafferthus.”
Gan ei fod yn cael ei ystyried yn blanhigyn anfrodorol ymledol yn y DU, byddai’n rhaid adeiladu pyllau triniaeth yn arbennig ar gyfer ei reoli, a hynny dan fesurau bioddiogelwch llym.
Ond gan na all y planhigyn oroesi’r gaeaf yn y DU, does dim perygl iddo ymledu oni bai fod cynnydd sylweddol yn nhymheredd y gaeaf.