
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio pobl o lifogydd lleol mewn rhannau o arfordir Cymru wrth i Storm Brian gyfuno â llanw uchel gyda’r nos heno ac yfory.
Gallai’r tywydd achosi ymchwydd storm, a allai olygu tonnau’n codi’n uwch na’r amddiffynfeydd mewn rhai ardaloedd. Mae’r rhagolygon cyfredol yn dangos mai’r ardaloedd y bydd y storm yn effeithio fwyaf arnynt yw’r rhai ar hyd rhannau amlwg o arfordir gorllewin Cymru, o Dde Gwynedd i Lanilltud Fawr.
Disgwylir y bydd y llanw uchel yn y mannau hyn ar ei anterth rhwng 6am a 11am ar ddydd Sadwrn.
Mae CNC eisoes wedi cyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd ar gyfer arfordir y gorllewin, ac yn debygol o gyhoeddi rhybuddion llifogydd ar gyfer Aberystwyth a Niwgwl yn hwyrach heddiw. Bydd rhagor o hysbysiadau a rhybuddion ar gyfer ardaloedd eraill yn cael eu cyhoeddi yn ôl yr angen.
Bydd gweithwyr ymateb i argyfwng 24/7 CNC allan mewn ardaloedd allweddol o’r arfordir dros y ddau ddiwrnod nesaf yn monitro’r llanw uchel a chyflwr ein hamddiffynfeydd llifogydd morol.
Mae CNC hefyd wedi cysylltu â’i asiantaethau partner megis cynghorau lleol a’r gwasanaethau argyfwng i sicrhau fod dulliau ymateb priodol yn barod petai angen.
Meddai Richard Hancox, o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’r tywydd ar hyd y glannau yn debygol o fod yn eithriadol o beryglus y penwythnos hwn ac rydym yn annog pobl i gadw’n glir, ac osgoi ymweld â’r arfordir yn ystod y cyfnod hwn.
“Rydym yn gwybod fod pobl yn awyddus i geisio tynnu lluniau o’r stormydd yma, ond yn sicr nid yw’n werth mentro eich bywyd. Gall cawodydd o’r môr a dŵr llifogydd eich taro oddi ar eich traed yn haws nag a feddyliwch, a gall tonnau mawr hyrddio gweddillion a malurion ar y lan.
“Os oes unrhyw un yn pryderu am y perygl o lifogydd yn eu cartref, sicrhewch a oes rhybuddion llifogydd ar gael yn eich ardal, ac ewch i’n gwefan i gael cyngor ar y ffordd orau o baratoi.”
Mae hysbysiadau a rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud.
Mae gwybodaeth a diweddariadau ar gael hefyd drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188. Gall pobl hefyd gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim un ai drwy ffonio rhif Floodline neu ar wefan CNC.
Ceir manylion llawn am lanw uchel ar hyd arfordir Cymru ar wefan y BBC.