Cytundeb ar atgyweirio ffyrdd ar ôl ralïau
Mae'r sefydliadau sy'n ymwneud â thrafodaethau i atgyweirio ffyrdd y goedwig ar ôl digwyddiadau ralïo wedi dod i gytundeb er mwyn galluogi ralio mewn coedwigoedd Cymru i barhau.
Llofnodwyd y contract ddoe (dydd Iau 9 Chwefror) rhwng Rali 4 Wales ac Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn y Trallwng, Powys.
Mae'r cytundeb ffurfiol yn golygu y bydd Rali 4 Wales yn gyfrifol am atgyweirio ffyrdd CNC ar ôl digwyddiadau ralïo am y ddwy flynedd nesaf.
Meddai Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol CNC ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru: "Mae'r cytundeb yn newyddion gwych i gefnogwyr rali ac i economi cefn gwlad Cymru.
"Mae hefyd yn newyddion da i drethdalwyr Cymru gan fod y gost o atgyweirio'r ffyrdd ar ôl pob rali yn cael ei hysgwyddo gan drefnwyr y digwyddiad, yn hytrach na chael eu sybsideiddio gan arian cyhoeddus."
Dywedodd Jamie Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Rali 4 Cymru: "Rydym wedi dod yn bell iawn i gyrraedd y pwynt hwn.
"Diolch i Cyfoeth Naturiol Cymru a'u staff am weithio yn galed gyda ni i ddatblygu’r cytundeb unigryw hwn o'r dechrau.
"Mae wedi golygu llawer iawn o drafod a mewnbwn gan wahanol adrannau yn CNC, ac rydym yn gwerthfawrogi ymdrechion pawb i alluogi’r cytundeb yma i gael ei gwblhau.
"Erbyn hyn mae gennym y caniatâd angenrheidiol i gwblhau gwaith atgyweirio o Rali’r Cambrian ymlaen.
"Mae hyn yn newyddion gwych i ralïo yng Nghymru wedi bron i chwe mis o gynllunio a thrafod. "Ar ôl misoedd o ansicrwydd, dwi’n gobeithio bod arwyddo'r cytundeb hwn yn paratoi'r ffordd i greu dyfodol tymor hir, sefydlog a cynaliadwy yng nghoedwigoedd Cymru."
Fel yr oedd y cytundeb yn cael ei arwyddo roedd staff Rali 4 Wales yn cwblhau arolygon fideo o'r ffyrdd coedwig sydd yn cael ei defnyddio ar Rali y Cambrian y penwythnos hwn fel rhan o'u proses cynllunio cyn y digwyddiad.
Bydd yr arolwg fideo yn helpu i ddangos cyflwr y ffyrdd cyn ac ar ôl ralïau, ac ar ôl i Rali 4 Wales gwblhau gwaith atgyweirio. Yn y llun mae (o'r chwith) Jamie Edwards Rally4Wales Contracts Limited, Mari Sibley a David Liddy o NRW.