Efallai mai cam yn ôl mewn amser yw’r ffordd ymlaen

Mae Tîm Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru wedi troi’r cloc yn ôl drwy ddefnyddio sgiliau coedwigo traddodiadol i deneuo ardal o goetir sensitif yn ne ddwyrain Cymru.
Yng Nghoetir Gwern Ddu, ger Rhydri, mae cedrwydd coch a sbriws Norwy wedi cael eu cwympo o amgylch coed yn llawn dwf i wella lefelau golau a chynyddu cyfraddau aildyfiant naturiol rhywogaethau o goed llydanddail.
Gan fod hwn yn goetir PAWS (Planted Ancient Woodland Sites) bydd y gwaith hwn yn helpu i’w adfer ac yn gwella’r amgylchedd naturiol.
Defnyddiwyd tri cheffyl Ardennes o Rowan Working Horses, Trefynwy i gwympo a thynnu’r coed oedd wedi eu clustnodi o’r safle. Cafodd y coed eu cwympo â llaw a’u tynnu yn gyfan i ardal agored lle gellid eu trawstorri yn feintiau llai. Cafodd y pren hwn wedyn ei gludo i ardal bentyrru ar gerbyd wedi ei dynnu gan geffyl.
Yn ystod y pedwar diwrnod tynnodd y tri cheffyl 47 tunnell o bren i gyd, gan gynhyrchu logiau ar gyfer melin lifio leol a phren ar gyfer y gwaith biomas ym Maglan.
Meddai Jonathan Singleton, Syrfëwr Cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’r gelfyddyd hynafol hon o dorri a thrin coed yn ddull o dynnu pren amgylcheddol sensitif a bach ei effaith ac mae’n ddelfrydol ar gyfer rheoli coetir trwchus.
“Corlannwyd y ceffylau dros nos yn y coed a bydd eu troedio ysgafn ar y ddaear yn cynorthwyo aildyfiant naturiol yn ogystal â diogelu bioamrywiaeth ac ardaloedd amgylcheddol sensitif, gan gynnwys gwâl moch daear yn yr ardal.
“Petaem ni wedi defnyddio peiriannau coedwig arferol byddem wedi gorfod creu llwybr newydd drwy’r ardal, a fyddai o bosibl wedi achosi difrod ac erydiad, a byddai hynny wedi effeithio ar dyfiant newydd am gryn amser. Roedd y ceffyl yn gallu gweithio ar y safle gan ddefnyddio’r llwybrau oedd yn bodoli eisoes ac roedd hynny’n ganlyniad da i’r ardal anodd a sensitif hon.
“Roedd hwn yn brofiad lledrithiol ac yn gyfle rhagorol i weld swyddogaeth draddodiadol ceffyl ar y tir.”