
Mae’r canlyniadau wedi cyrraedd ac mae’r cyhoedd wedi penderfynu - na, nid yr X Factor tro hwn - yr enw newydd ar Goetir Cymunedol Cwm Llynfi yw Coetir Ysbryd y Llynfi.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn creu coetir newydd ar hen safle Lofa Coegnant a Golchfa Maesteg yng Nghwm Llynfi Uchaf , mewn prosiect ariannwyd gan Gronfa Natur Llywodraeth Cymru.
Dechreuodd y gwaith i drawsnewid y safle 30 hectar y mis diwethaf , pan gyrhaeddodd y peiriannau cloddio i ddechrau paratoi’r ddaear ar gyfer plannu 60,000 o goed dros y gaeaf.
Bellach mae’r gwaith o baratoi wedi’i gwblhau, a’r plannu wedi cychwyn ac fel rhan o
Wythnos Genedlaethol y Coed, bydd plant o saith ysgol leol yn plannu cymysgedd o goed llydanddail a choed addurnol ar y safle.
Cynhelir y seremoni enwi swyddogol am 10 o’r gloch, fore dydd Mercher, Rhagfyr 2.
Cafodd yr enw newydd Coetir Ysbryd y Llynfi, sef ‘The Spirit of Llynfi Woodland’ yn Saesneg, ei awgrymu gan Heidi Bennett, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, a leolir ym Maesteg, a chafodd ei ddewis gan blant ysgol a chynghorwyr lleol a chynrychiolwyr Cymunedau’n Gyntaf
Meddai Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru,:
“Mae prosiect Coetir Ysbryd y Llynfi yn rhoi cyfle i ddangos sut y gallwn fwrw ymlaen â’r rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a sicrhau manteision i gymunedau lleol.
“Mae cael mannau gwyrdd ar garreg y drws, nid yn unig yn dda ar gyfer bywyd gwyllt , ond hefyd yn helpu pobl i deimlo’n well am eu cymuned a darparu ardal i ymlacio ac i ymarfer.
“Diben CNC yw sicrhau bod ein hamgylchedd ac adnoddau naturiol yn cael eu cynnal, gwella a’u defnyddio.”
Mae Ford Motors, sydd â 300 o weithwyr yn byw yng Nghwm Llynfi a’r cyffiniau, wedi gwneud cyfraniad ariannol sylweddol i’r prosiect am y 10 mlynedd nesaf a hefyd wedi ymrwymo diwrnodau gwirfoddoli i gefnogi datblygiad y prosiect.
Bydd y bartneriaeth gyda Ford yn cefnogi plannu coed a datblygu cyfleusterau ymarfer corff gwyrdd gan ddarparu lle ar gyfer gweithgareddau lles ac iechyd i’r gymuned
Dywedodd Mark Thomas, Rheolwr Cynaliadwyedd Ffatri Pen-y-bont ar Ogwr:
“Mae Ford yn hapus iawn i fod mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru yn natblygiad y coetir yng Nghwm Llynfi.
“Mae hyn yn crynhoi ein strategaeth cynaliadwyedd i gydgysylltu ein cynnyrch, planhigion, pobl a’r cymunedau lle rydym yn gweithio trwy gyflwyno mannau gwyrdd deniadol ar gyfer cymuned lle mae llawer o weithwyr Ford yn byw.
“Rydym yn edrych ymlaen at staff yn treulio llawer o oriau yn gwirfoddoli yn y coetir.”
Bydd Coetir Ysbryd y Llynfi nid yn unig yn gwella amgylchedd Cwm Llynfi drwy gynyddu bioamrywiaeth, lleihau dŵr ffo a gostwng llygredd, ond bydd hefyd yn annog pobl i dreulio mwy o amser tu allan a chynyddu eu lefelau gweithgarwch.