Cyfeiriad newydd i gadwraeth
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymuno â Chymdeithas Ecolegol Prydain ac asiantaethau cadwraeth natur eraill y DU er mwyn gosod llwybr newydd ar gyfer cadwraeth natur.
Mae’r gynhadledd, a gynhelir heddiw (Dydd Mercher, 23 Mai) ym Mhrifysgol Fetropolitanaidd Manceinion, yn dod â swyddogion polisi, ymarferwyr, gwyddonwyr naturiol a chymdeithasol ledled y DU a’r byd ynghyd.
Bydd y gynhadledd yn archwilio sut mae angen i bobl sy'n ymwneud â diogelu'r amgylchedd adolygu eu ffocws yn wyneb amgylchiadau sy'n newid.
Dywedodd Catherine Duigan, Rheolwr Tystiolaeth CNC:
“Mae newid yn yr hinsawdd, twf yn y boblogaeth, a chystadleuaeth am adnoddau naturiol yn parhau i gael effaith ar natur ac ar fywyd gwyllt. Mae’r newid yn y tirlun gwleidyddol yn y DU, wedi ei yrru’n rhannol gan Brexit, yn creu ansicrwydd a chyfleoedd ychwanegol.
“Nawr yw’r amser i edrych unwaith eto ar ein hegwyddorion ar gadwraeth natur ac adolygu sut mae angen i ni weithio gyda’n gilydd fel y gallwn greu amgylchedd mwy iach a mwy gwydn ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd Cymru a’r DU.
“Mae’r cyfarfod hwn yn dod â chymuned cadwraeth y DU ynghyd i rannu ac ystyried syniadau newydd, gwybodaeth a phrofiad.
“Mae ein llesiant, a llesiant cenedlaethau’r dyfodol, yn dibynnu ar yr ymdrech yma.”
Ynghyd â nifer o siaradwyr gwadd amlwg, bydd cynrychiolwyr yn cyflwyno ymchwil arloesol ar gadwraeth a bioamrywiaeth. Yn ogystal, mae cyfle i wneuthurwyr polisi ac ymarferwyr drafod anghenion ymchwil gyda’r gymuned academaidd.
Mae’r prif siaradwyr yn cynnwys:
- Jacob Ellis, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
- Y Farwnes Barbara Young o Old Scone, Tŷ’r Arglwyddi
- Tony Juniper, Cyfarwyddwr Gweithredol WWF-UK dros Eiriolaeth ac Ymgyrchoedd
Dywedodd yr Athro Richard Bardgett, Llywydd Cymdeithas Ecolegol Prydain:
“Mae cadwraeth natur ar groesfan, a bydd yr heriau a wynebwn yn dylanwadu ar sut y byddwn yn defnyddio’r amgylchedd am sawl cenhedlaeth i ddod.
“Bydd y gynhadledd amserol hon yn dod â gwyddonwyr, ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi ynghyd i rannu syniadau a choleddu cydweithrediad, gan sicrhau bod penderfyniadau’r dyfodol yn cael eu cynnal gan y dystiolaeth wyddonol orau.”
Ychwanegodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol:
"Os ystyriwn yr hyn y mae cadwraeth yn ei olygu, a’i fod yn cael ei ddiffio fel diogelu, atal ac adfer, mae’n ymwneud ag ystyried cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n dweud nad oes gennym fwy o hawl i'n hadnoddau naturiol, nac i'n planed fel rydym yn ei mwynhau heddiw, na'r rhai sydd eto i'w geni. "