Carreg filltir nodedig wrth baratoi ar gyfer llifogydd

Gydag un o bob chwe pherson yng Nghymru yn byw neu’n gweithio mewn ardal mewn perygl o lifogydd a gyda digwyddiadau llifogydd eithafol yn digwydd yn amlach, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda chymunedau, busnesau ac unigolion i’w helpu i weithredu’n ymarferol cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
A chyrhaeddwyd carreg filltir nodedig pan gwblhawyd y 1000fed cynllun llifogydd gan Drafnidiaeth Gymunedol Castell-nedd Port Talbot (NPTCT) - dyma un o’r dulliau mwyaf effeithiol o sicrhau bod pobl wedi cael eu paratoi ar gyfer llifogydd.
Dywedodd Amanda Paton, rheolwr prosiect Ymwybyddiaeth Llifogydd CNC:
"Gall llifogydd gael effaith ddinistriol, gan achosi difrod gwerth miloedd o bunnau a straen emosiynol.
“Mae gan CNC rôl allweddol i gadw cymunedau’n ddiogel rhag niwed amgylcheddol, gan gynnwys llifogydd, drwy helpu pobl i baratoi pe byddai llifogydd yn digwydd ac mae datblygu cynllun llifogydd a chofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim ymysg y ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hyn.”
Datblygwyd y cynlluniau llifogydd cyntaf yn 2010 fel rhan o ymgyrch Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru. Maen nhw’n manylu ar beth y gall unigolion, cymunedau a busnesau eu gwneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
Yn achos unigolion gall hyn olygu gwirio eich manylion yswiriant, a chadw eich eitemau personol a manylion cyswllt pwysig yn ddiogel. Caiff cynlluniau llifogydd cymunedol eu datblygu gyda phartneriaid proffesiynol a byddent yn cynnwys manylion o fannau ymgynnull diogel a gwybodaeth am bobl fyddai angen cymorth yn ystod argyfwng.
Mae cynlluniau llifogydd busnes yn canolbwyntio ar effeithiau llifogydd ar y pryd a hefyd ar sicrhau bod cyn lleied o amharu ar y busnes â phosibl.
Eglurodd Amanda:
“Mae sicrhau bod busnesau yn gweithio fel arfer ar ôl digwyddiad llifogydd yn hanfodol i’r economi leol.
“Bwriad cynlluniau llifogydd yw parhad busnes a lleihau effaith llifogydd ar y busnes. Gall hyn fod mor syml a symud stoc i lefel uwch, neu wirio bod staff yn gallu dod i’r gwaith fel bod y busnes ar agor i gwsmeriaid.
“Rydym yn gwybod bod busnesau bychain yng Nghymru yn cyflogi pobl o’u cymunedau lleol, sy’n dibynnu ar incwm rheolaidd i gynnal eu teuluoedd.
“Mae llawer o fusnesau wedi mabwysiadu cynllun llifogydd yn ychwanegol at eu gweithdrefnau argyfwng presennol, fel gwacáu ateg tân. Maen nhw’n hawdd i’w gwneud a gallant arbed miloedd.”
Sefydliad di-elw yw NPTCT sy’n darparu trafnidiaeth hygyrch, fforddiadwy i grwpiau gwirfoddol a chymunedol yng Nghastell-nedd a Phort Talbot. Mae ei gynllun llifogydd yn bwysig iawn gan fod nifer o bobl yn dibynnu ar NPTCT i deithio o amgylch.
Dywedodd Paul Habberfield, o NPTCT:
“Ar hyn o bryd mae gennym naw cerbyd, saith ohonynt gyda mynediad i gadeiriau olwyn, sy’n gallu cario hyd at 16 o deithwyr. Mae’r rhain yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, felly gwelwch ein bod yn darparu gwasanaeth hanfodol i nifer o bobl yng Nghastell-nedd a Phort Talbot.
“Fe ddatblygwyd cynllun llifogydd ar gyfer ein pencadlys sy’n rhestru beth i’w ddisgwyl os bydd llifogydd yn digwydd a chynlluniau wrth gefn pe byddem yn methu defnyddio’r adeilad oherwydd llifogydd.
“Er bod ein pencadlys ar risg lefel isel o brofi llifogydd, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig gwneud hyn er mwyn lleihau unrhyw aflonyddwch i’r gwasanaeth a ddarparwn i’r gymuned leol pe byddai llifogydd.”
Am fwy o wybodaeth ar gyfer paratoi ar gyfer llifogydd ewch i wefan CNC sy’n cynnwys templedi cynllun llifogydd i fusnesau, ysgolion, ffermydd a chymunedau.
Am fwy o wybodaeth ar ddod yn Wirfoddolwr adeg Llifogydd, ewch i’r wefan neu dudalen Facebook Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru.
I gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188, neu e-bostiwch floodawareness.wales@naturalresourceswales.gov.uk
Am fwy o wybodaeth ar Yswiriant Llifogydd ewch i’r wefan Flood Re www.floodre.co.uk