Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Pob dyffryn, pob clogwyn i’m golwg sydd hardd

Image of Cadair Idris

Bob mis mae ein timau’n sgwennu blog am y llefydd arbennig maen nhw’n reoli. Yma, mae Paul Williams, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd Ucheldiroedd Meirionnydd, yn mynd a ni am dro trwy Warchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris. Image of Paul Williams at Cadair Idris

Wrth gau giât y Warchodfa tu ôl i mi, dwi’n camu i fyd arall; dyma’r goedwig law Geltaidd. Yma, mae’r golau’n wahanol. Yr awyrgylch hefyd, wrth i ddŵr byrlymus Nant Cadair ruthro trwy’r ceunant o’r mynydd tua’r môr dros garreg a phistyll, a llenwi’r aer efo lleithder; cynhaliaeth y mwsoglau cyfoethog sy’n gorchuddio popeth. Dim ond dringo trwy’r goedwig ydw i y tro hwn, a’r nod ychydig yn uwch ar y mynydd.

Mae digon o ryfeddodau yn y coed i’m diddanu ar adegau eraill o’r flwyddyn: ar fore braf o wanwyn, wrth i haul y bore gynhesu’r llwybr mae ambell ddarn yn ferw o wenyn turio a chacwn yn mynd a dod i’w tyllau yn y pridd ac yn gwarchod eu tiriogaeth rhag pryfaid eraill. Erbyn dechrau’r haf, bydd triawd o adar nodweddiadol y goedwig dderw -gwybedog brith, tingoch, a thelor y coed- wedi cyrraedd ‘nôl o’r Affrig i fagu ac ychwanegu at sŵn a chyffro’r coed.

Ond ymlaen mae’r nod, ac wrth ddod allan i’r mynydd agored caf fy nghyfarch fel bob tro gan yr hen ddryw bach ffyddlon, a’i drydar parablus yn ffrwydro o’r rhedyn coch gerllaw. Mae’r dryw fel totem sy’n cadw cwmpeini i mi trwy’r flwyddyn, ym mhob tywydd, pan mae’r ymwelwyr wedi dychwelyd i’w cynefin a phrin neb arall ar y mynydd.

Daw llethrau a chopaon Cadair Idris i’r golwg fesul un wrth ddringo dow-dow ar lwybr Minffordd. Y Ffridd Newydd a Mynydd Moel ydi’r tirlun mynyddig cyntaf i ddod yn amlwg o’ch blaen wrth godi’n uwch i’r dyffryn crog. Heddiw, mae Banc Foty yn rhedyn drosto, ond y waliau cerrig isel yn dyst y bu rhywun yma dros hafau’r gorffennol efo’u gwartheg.

O droi efo’r llwybr tua’r gorllewin, copa trawiadol Craig Cau sy’n hawlio’r sylw, a’i glogwyn mil troedfedd fel petai’n tyfu wrth imi ddringo dros y marian rhewlifol sy’n cadw dŵr oer dwfn Llyn Cau yn ei le. Byddai’n rhaid parhau i ddringo i ben y Graig Lwyd er mwyn cael cip ar gopa uchaf Cadair Idris, sef Penygadair, ond Cwm Cau ydi fy nghyrchfan i y tro hwn, ac mae’n hawdd iawn bodloni ar gyrraedd lleoliad mor wych. Lliw'r awyr ydi lliw dŵr y llyn yn aml iawn. O ben Tŵr Maen a Chraig Cau ar ddiwrnod o haf gallwch daeru eich bod yn edrych ar liwiau glas a gwyrddlas Môr y Canoldir oddi tanoch; ond gall hefyd fod yn dywyll a bygythiol dan gwmwl du. Hawdd credu’r chwedlau ei fod yn llyn diwaelod, efo angenfilod dirgel yn llechu yn ei ddyfnderoedd!

Wrth imi eistedd ar y lan, mae gwynt ysgafn yn gyrru mân grychau dros wyneb y dŵr, gan dorri ar adlewyrchiad y graig a’r bwlch ar y gorwel. Mae dwy gigfran yn cylchu uwchben, a’u crawcian yn ail-adrodd yng ngherrig ateb clogwyni’r cwm. Ar ôl tamaid o ginio rhaid troi at amcanion y dydd, ac ar ôl sgwrs ddifyr efo arolygwr mwsog a thynnu lluniau o effeithiau traed yr haf ar rostir gwlyb y marian, rhaid troi ‘nôl tua’r dwyrain. Mae’n ddiwedd tymor mewn sawl ystyr ac mae’n gyfle i arolygu rhai o nodweddion y warchodfa, ac effaith haf gwlyb arall law-yn-llaw â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio efo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gynnal a chadw rhai o lwybrau Cadair Idris, ac mae’r gwaith diweddaraf i greu llwybr cerrig yn plesio’n arw. Dyma waith sy’n angenrheidiol i reoli erydiad ar y mynydd a gwarchod rhai o gynefinoedd prinnaf Cymru.Image of vegetation at Cadair Idris

Rydym wedi newid y patrwm o bori’r warchodfa ers 2013, ac mae’r drefn newydd o bori ysgafn yn yr haf, a llai eto yn y gaeaf wedi arwain at newidiadau calonogol yn y tyfiant yn barod. Fan hyn, fan draw ar lethrau Waun Bistyll a Bwlch Melyn, mae ambell i goeden griafol ifanc yn codi’i phen ymysg y grug. Y gobaith hirdymor ydi nid yn unig gweld coed yn ymestyn yn uwch i’r cwm, ond hefyd bod y planhigion arctig-alpaidd yn medru lledaenu ar i lawr o’u safleoedd cyfyng ar y clogwyni.

Os nad ydych yn hoffi tywydd Cadair Idris, arhoswch am awr. Ar ôl bore digon oer, efo cawodydd achlysurol o eira mân a chenllysg, daw’r haul isel yn gynnes trwy’r cwmwl wrth i mi fesur glaw y mis a fu: ychydig dros 17 modfedd ar gyfer Tachwedd. Mis gwlyb arall, mewn lleoliad sy’n gweld dros 200 diwrnod o law bob blwyddyn. Ond wrth ddod i lawr y llwybr yn ôl trwy’r goedwig, gallwn ddathlu fod ein tywydd yn elfen bwysig iawn o’r hyn sy’n gwneud Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris yn arbennig.

Dilynwch hynt a helynt @WardenCadair ar warchodfeydd gwych yr ucheldir, neu ewch i’n gwefan a fwy o wybodaeth am Gadair Idris. Mae’r hanes uchod yn parhau ar y dudalen Saesneg hefyd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.