Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Fy Swydd a’r Safleoedd yr ydym yn eu rheoli

Pippa Hardman

Bob mis mae ein timau yn ysgrifennu blog sydd yn sôn am y llefydd arbennig y maent yn gofalu amdanynt. Y tro hwn, Pippa Hardman sydd yn trafod ei rôl newydd fel Rheolwr Gwarchodfa.

Mae dau gwestiwn yn cael ei ofyn i mi yn rheolaidd fel Rheolwr Gwarchodfa newydd, sef beth ydw i yn ei wneud yn fy swydd, a pha safle yw fy hoff safle i?

Rwy’n teimlo’n hynod ffodus a chyffrous o fod yn perthyn i dîm sydd yn gofalu am un o’r safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf yng Nghymru. Rydw i’n gweithio gyda thîm o Uwch Reolwyr Gwarchodfeydd sydd yn gofalu am 16 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol ar draws De Cymru, ac mae digon o waith i’w wneud yn gofalu am ystod mor eang o lefydd arbennig iawn.

Beth ydw i’n ei wneud yn fy Swydd?

Mae pob diwrnod yn hollol wahanol i’w gilydd, ac mae’r heriau o ddydd i ddydd yn wahanol.

Mae’r swydd yn cynnwys monitro’r nodweddion sydd yn gwneud y warchodfa yn un arbennig, o boblogaeth yr adar, gloÿnnod byw a phlanhigion i wneud gwaith rheoli cadwraeth, neu weithio gyda’n porwyr, rhanddeiliaid a chontractwyr er mwyn sicrhau bod nodweddion cynefinoedd a rhywogaethau yn cael eu gwarchod.

Rhan arall bwysig iawn o’m rôl yw gwneud yn siŵr bod gan bobl fynediad diogel i’r llefydd arbennig hyn fel eu bod yn medru mwynhau ac astudio’r safle, tra’n sicrhau bod yr holl nodweddion y daw pobl i’w gweld yn cael eu gwarchod nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Pa un yw fy Hoff Warchodfa Natur Genedlaethol?

Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn, gan nad ydw i wedi bod yn fy swydd ond ers ychydig fisoedd!

Mae pob Gwarchodfa Natur Genedlaethol mor unigryw, o’r rhywogaethau a’u cynefinoedd i’r tirweddau godidog sy’n gartref iddynt.

Mae hyn yn wir yn fy mhrofiad o ddod i adnabod dwy o’r gwarchodfeydd sydd yn cael eu rheoli gennym, sef Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad a Fan Frynych.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig: Trysor Cudd

Mae Coed y Cerrig wedi ei leoli ar ochr ddeheuol y Mynyddoedd Duon, ychydig i’r gogledd o’r Fenni. Mae’n gorwedd mewn dyffryn cul a ffurfiwyd gan rewlifoedd, ac mae’r safle hwn yn gyforiog o’r amrywiaeth o gynefinoedd coetiroedd sydd yn bodoli yno.

Mae’n cael ei ystyried fel un o’r enghreifftiau gorau o goetiroedd llifwaddodol yn y DU, ac mae’r coetir gwern gwlyb hwn hefyd wedi ei glustnodi yn Ardal Gadwraeth Arbennig Ewropeaidd. Mae’n gorwedd ar hyd llawr gwlyb y dyffryn lle mae planhigion fel gold y gors, cwlwm cariad a rhedynen y gors anghyffredin yn tyfu. Mae rhodfa sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ar y safle, sy’n caniatáu i ymwelwyr fynd yn agos at gynefin cudd y planhigion hyn.

Ar ochr ogleddol y safle mae llwybr arall wedi ei farcio ac mae’n arwain ar hyd ardal mwy serth yn y dyffryn, lle gwelwch gymysgedd o goetiroedd llwyfen, onnen a chollen cyn cyrraedd y coed derw a’r ffawydd sy’n tyfu ar lwyfandiroedd uchaf y warchodfa. Yn y gwanwyn ceir carped glas o glychau’r gog, ac yn yr hydref mae lliwiau amrywiol y dail yr un mor brydferth. O dymor y gwanwyn ymlaen cewch hefyd fwynhau gweld bresych-y-cŵn, blodau’r gwynt, briallu, pidyn y gog, clychlys dail danadl a thegeirian coch y gwanwyn. Mae’r pathew wedi ei gofnodi yn yr ardal hefyd, ond gan ei fod yn anifail y nos, mae’n bosib na fyddwch yn ei weld yn ystod y dydd!

Gwarchodfa Natur Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych: Safleoedd Agored

I’r de o Aberhonddu, oddi ar yr A470 mi fyddwch yn cyrraedd amffitheatr ddramatig naturiol clogwyni creigiog Craig Cerrig Gleisiad a rhosydd agored Fan Frynych. Mae’r ardal yma yn cael ei gwarchod oherwydd ei nodweddion daearegol, biolegol ac archeolegol sylweddol y medrir eu mwynhau, yn enwedig ar ddiwrnodau braf!

Cafodd ei ffurfio gan rewlif tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae’r lleoliad mynyddig hwn yn gartref i dros 300 o rywogaethau, gan gynnwys blodau arctig-alpinaidd a cherddin gwynion ar y clogwyni serth a’r coetiroedd. Ceir dros 80 o rywogaethau o adar sydd naill ai’n ymweld neu’n magu yn y warchodfa gan gynnwys hebogau tramor, cigfrain, cudyllod bach a barcutiaid. Gall ymwelwyr yn yr haf hefyd weld tinwennod, mwyeilch mynydd, ehedyddion, creciau’r eithin a chorhedyddion y coed.

Mae’r lleoliad yn llawn hanes, ac ar draws i lwyfandiroedd y Fan Frynych, ceir tystiolaeth o aneddiadau Oes yr Haearn neu Brythonig-Rufeinig, yn ogystal â ffordd Rufeinig Sarn Helen. Mae tystiolaeth bod ffermwyr Canoloesol wedi treulio eu hafau yma hefyd gyda’u hanifeiliaid yn pori gyda phantiau lle cloddiwyd cerrig ar gyfer waliau a thoeau gannoedd o flynyddoedd yn ôl.

Erbyn heddiw, gallwch fwynhau’r safle, sydd hefyd o fewn Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr, ar deithiau dwy ddolen wedi ei marcio, oddi ar yr A470, er mwyn gweld a gwerthfawrogi’r dirwedd ddramatig hon. Gallwch gymryd tro hirach trwy gysylltu gyda Ffordd y Bannau sydd yn croesi’r safle dros lwyfandir Fan Frynych ac ar draws i Graig Cwmdu.

Ymweld â’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Amrywiol

Mae amrywiaeth yn thema gyffredin sydd yn cysylltu fy rôl i â’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol hefyd. Yr her i mi yw rheoli’r tasgau sydd yn fy wynebu o ddydd i ddydd tra’n gwarchod yr amrywiaeth yn y safleoedd sydd yn cael ei reoli gennym..

Rydw i’n mwynhau’r amrywiaeth sy’n gysylltiedig â’m rôl i, ond hefyd mae modd i unrhyw un sydd yn ymweld â’r safleoedd hyn fedru mwynhau amrywiaeth y rhywogaethau, y cynefinoedd a’r tirweddau mae’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn eu gwarchod. Rydw i’n argymell yn gryf eich bod chi’n mynd i’r gwarchodfeydd i weld drosoch eich hun!

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.