Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

2018 – Blwyddyn y Môr (a’r glannau!)

View of Morfa Harlech beach

Un o fanteision bod yn Reolwr Gwarchodfeydd Natur heb beiriant 4x4 yw’r angen i gerdded i bob man ar y warchodfa.

Yn rheolaidd felly, caf fy hun ar ddiwedd y prynhawn yn wynebu taith hir (dros awr o gerdded cyflym) o drwyn Harlech neu ben draw Morfa Dyffryn yn ôl ar hyd y traeth. Ac felly, bydd gennyf siwrne hir are droed i’w hwynebu! Rhaid bod yn y meddylfryd iawn ar gyfer hyn – ac os yw’r tywydd yn arw, a’r gwynt yn fy ngwyneb, gall hyn olygu rhoi pen i lawr a cheisio cyrraedd y fan cyn gynted ag y gallaf. Ond heb os, bydd rhywbeth yn cymryd fy sylw ar hyd y traeth bob tro - a dyna’r daith yn ôl ddwywaith mor hir a’r disgwyl!

Yr ydym yn ffodus dros ben yma yng Nghymru i gael arfordir bendigedig ar dair ochr i’r wlad, gyda llwybr ar hyd yr arfordir sydd yn 870 milltir o hyd; a’r arfordir ei hun yn hirach fyth wrth gwrs o gymryd i ystyriaeth yr holl faeau, traethau a hafnau ar hyd y lan.

Os am fwynhau pleserau’r heli yn ail unig i daith cwch mae ymweliad i lan y môr

Boed yn benrhyn creigiog neu yn draeth tywodlyd - mae’r safleoedd godidog hyn yn bodoli rhwng y ddau fyd, y daearol a’r morol, ac o’r herwydd yn llefydd ardderchog i ddod i adnabod y ffin rhyngddynt yn well. Mewn un cyfeiriad mae’r mor mawr anghyfarwydd, ar y llaw arall mae’r tir mwy cyfarwydd – ac mae’r llanw, y tywydd ac amser yn cynnal y berthynas barhaol rhwng y ddau.

Y mae’r prosesau sydd ar waith yn ddyddiol ar hyd y glannau yn frwydr barhaol rhwng y môr a’r tir, y naill weithiau yn drech na’r llall. Anhygoel yw gweld grym y tonnau yn chwalu creigiau anferth yn ddim, ac yn sgubo twyni tywod i ffwrdd o dan y don – fel a ddigwyddodd dros y Calan eto eleni. Ydy, mae grym y môr – yn enwedig â gwynt y tu ôl i’r tonnau yn eu hyrddio i’r lan - i ryfeddu ato dragywydd.

O dan yr wyneb, mae yna fywyd gwyllt anhygoel i’w gael sydd bron yn anweledig i ni. Hawdd iawn i ni anghofio – er fod cyfresi gwych fel ‘Blue Planet 2’ yn ddiweddar yn dod a chymaint yn syth I’n cartrefi.

Yn achlysurol, ac yn amlach na pheidio wedi storm, ceir cipolwg ar greaduriaid y byd dan y tonnau wrth i dywydd garw, neu amgylchiadau eraill, ddod a hwy i’r lan.

A minnau yn gwarchod dwy system dwyni tywod fawr (Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Morfa Harlech a Morfa Dyffryn ym Meirionnydd), dros y blynyddoedd rwyf wedi dod o hyd i nifer o greiriau a olchwyd i’r lan gyda’r tonnau.

Y mae sbwriel dynol yn gyson, gwaetha’r modd, a phopeth o rwydi a leiniau pysgota, i focsys a photeli plastig, i ffrijis a theganau i’w gweld yn difetha’r amgylchedd yn ddyddiol. O’r diwedd, mae hyn yn cael mwy o sylw.

Yr ydym yn cynnal nifer o ddyddiau glanhau traeth ar ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Pe hoffech ein helpu, cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod mwy am ein digwyddiadau.

Ond i fynd yn ôl at y bywyd gwyllt - ceir y nodweddion biolegol disgwyliedig, arferol yn gyson - pethau fel gwymon a chelp, sêr môr a chregyn, neu efallai byrsiau môr forwynion (sef wyau morgwn a morgathod) a slefrod môr yn eu cannoedd.

Yn achlysurol, ceir ambell greadur annisgwyl

Un tro, pan yn cerdded yn ôl at y fan cefais bysgodyn clicied, pysgodyn o ddyfroedd cynhesach fel arfer. Dro arall, congren oedd o’m blaen - ar ei hyd ar y traeth, fel neidr fawr, lwyd, dew, a’i cheg yn agored gan ddangos rhes o ddannedd mileinig.

Ar ôl stormydd yr hydref ceir morloi llwyd; a rhai ifanc iawn yn aml, wedi methu goroesi ac o bosib wedi eu cario ar y llif o un o’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol eraill yn Sir Benfro.

Yr wyf hefyd wedi canfod dolffin cyffredin a dolffin Risso – yr olaf o’r rhain yn bwydo ger y riffiau o amgylch Pen Llŷn, ac anaml y’u gwelir.

Dylid cysylltu â Marine Strandings Wales neu’r rhaglen ymchwil genedlaethol CSIP os cewch hyd i forfil neu ddolffin ar y lan – gallan ymchwilio i reswm y farwolaeth a chasglu data hollbywsig.

Daeth CSIP i weld dolffin trwyn potel a welais wedi ei olchi i’r lan ym Mhen Llŷn – mor anghyffredin yw eu canfod, a dadansoddwyd fod y creadur druan wedi tagu ar bysgodyn a boddi.

Y peth mwyaf diddorol i mi ei ganfod oedd y crwban Kemps’ Ridley a olchwyd i’r lan cyn y Nadolig rai blynyddoedd yn ôl.

Rhannodd hwn ei le yn fy rhewgell dros gyfnod y Nadolig tan yr oedd modd ei gludo i rewgell y tîm morol ym Mangor yn y flwyddyn newydd – aeth oddi yno i lawr i Lundain (unwaith yr oedd y gwasanathau cludo yn ôl i drefnu ar ôl yr ŵyl!) . Tua’r un maint a phlât, nid oedd ond bychan o’i gymharu a’r crwban cefnlledr 914kg a ganfuwyd ar draeth Harlech ym 1980 – y crwban mwyaf a gofnodwyd erioed, ac sy’n byw bellach mewn cas gwydr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Ac yna, ddiwedd llynedd, cefais gip ar greaduriaid yr wyf wedi bod yn cadw llygad allan amdanynt ers rhai blynyddoedd – chwysigod môr, sef y ‘Portuguese man o’war’ enwog – coloni o greaduriaid symbiotig sy’n edrych fel balŵn fach binc, a’r tentaclau glas, hir yn wenwynig a pheryglus. Rhaid oedd rhoi galwad sydyn i adran draethau Cyngor Gwynedd i’w rhybyddio – a chlywed fod nifer wedi cyrraedd glannau Cymru dros yr un cyfnod. Gwae chi os cyffyrddwch yn un o’r rhain!

A hithau’r flwyddyn y môr beth gewch chi yn well fel esgus i gael mynd tua’r arfordir?!

Er y peryglon achlysurol, mae glan y môr yn lle hyfryd i fod, a digon i’w weld gydol y flwyddyn. Gydag ychydig o barch at y môr, chewch chi fyth ddiwrnod gwael ar lan y môr!

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.