Dechrau treialu ffensys rhithwir yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch

Bydd Twyni Byw a Cyfoeth Naturiol Cymru yn treialu technoleg Nofence dros y misoedd nesaf i gefnogi pori cynaliadwy ymhellach yn Niwbwrch. 

Er bod twyni tywod yn fannau naturiol a deinamig, mae dal angen i ni ymyrryd i atal glaswellt a phrysgwydd trwchus rhag cael gordyfu. Mae pori traddodiadol gyda da byw yn cadw ein twyni tywod yn iach, gan greu amodau perffaith i fywyd gwyllt arbenigol y twyni ffynnu.

Yma mae Jake Burton, Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw yn y Gogledd, yn esbonio'r dechnoleg a'n cynllun dros y misoedd nesaf, wrth i'r prosiect barhau â'i waith i adfywio twyni tywod ledled Cymru.

Beth yw ‘Nofence’ a sut mae’r dechnoleg yn gweithio?

Mae system Nofence yn defnyddio coleri clyfar sy'n cynnwys tracwyr sydd yn cysylltu ag ap ar gyfer ffonau symudol. Bydd yr ap yn caniatáu i ni ‘lunio’ ardal bori rithwir, y gellir ei symud neu ei newid pan fo angen.

Mae'r dechnoleg yn caniatáu i anifeiliaid pori symud drwy dirweddau ehangach mewn ffordd fwy naturiol, gan greu mosaig o gynefinoedd sy'n rhoi hwb i fywyd gwyllt prin. Byddwn yn gallu 'ffensio' ardaloedd yr ydym am eu diogelu a gyrru da byw yn naturiol i fannau nad ydynt wedi eu pori'n ddigonol yn y gorffennol. Ymhen amser, gall y system ganiatáu i ni bori ardaloedd nad ydynt wedi eu ffensio ar hyn o bryd.

Pan fydd anifail yn nesáu at y ffens rithwir, bydd y coler yn seinio rhybudd. Os bydd yr anifail yn mynd yn nes eto at y ffens, bydd traw y sain yn newid; yna os bydd y fuwch yn parhau i anwybyddu'r rhybudd bydd yn cael pwls byr nad yw’n peri niwed - yn debyg i wefr ffens drydan.

Byddwn yn gallu tracio lleoliad pob buwch bob amser, gan ddefnyddio'r ap. Bydd hyn yn ein galluogi i fonitro'r fuches a'i phatrymau pori yn ofalus.

Ein cynllun dros y misoedd nesaf

Bydd ein buwch yn cael eu hyfforddi yn gyntaf fel eu bod yn dod yn gyfarwydd â'r dechnoleg newydd ac yn arfer â gwisgo'r coleri. Bydd hyn yn digwydd yn ardaloedd pori Llyn Rhos Ddu, lle bydd y gwartheg yn gallu dysgu cysylltu'r sŵn rhybuddio â phresenoldeb ffens go iawn yn gyntaf, ac yna ffens rithwir. Buan y mae gwartheg yn dysgu i droi'n ôl pan fyddant yn clywed y sain, ac unwaith y bydd hyn wedi digwydd, byddant yn cael eu symud yn ôl i'r warchodfa ehangach i bori o fewn cae rhithwir newydd.

Cyflawnir holl waith Twyni Byw gyda'r uchelgais o gadw twyni tywod gwych Niwbwrch yn iach. Cadwch lygad ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn parhau i bostio diweddariadau rheolaidd. Ein henw yw @TwyniByw ar Twitter, Instagram, a Facebook, neu gallwch chwilio am Twyni Byw.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith, cysylltwch â Jake Burton ar jake.burton@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru