Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Richard Parks yn cefnogi Wythnos Dysgu Awyr Agored

Llun o Richard Parks yn cerdded i fyny mynydd gyda golygfa i lawr y mynydd yn y cefndir

Yr wythnos yma, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn lansio'r Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru gyntaf erioed gyda Chyngor Cymru ar Ddysgu yn yr Awyr Agored.

Mae'n dathlu’r holl ddysgu gwych yn yr awyr agored sy'n digwydd yng Nghymru a'i nod yw ysbrydoli athrawon, grwpiau dysgu a theuluoedd i wneud dysgu yn yr awyr agored yn rhan o fywyd yr ysgol a’r teulu.

Mae bod yn yr awyr agored, cysylltu â natur a'r byd naturiol yn dda i ni a'n hamgylchedd. Mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn gwella iechyd a lles ac mae'n ein helpu i sylweddoli  beth yw ein heffaith ar yr amgylchedd nawr ac yn y dyfodol, gan feithrin cysylltiad a dealltwriaeth gydol oes o'r awyr agored.

Un person sy'n deall hyn yw Richard Parks. Yn dilyn yr anaf dinistriol a roddodd ddiwedd ar ei yrfa rygbi ryngwladol, awyr agored gwych Cymru a'i helpodd ar ei daith i fod yn athletwr â record byd…

Dyma ei stori…

Yr awyr agored achubodd fy mywyd i. Weithiau, dwi'n dweud bod y mynyddoedd wedi achub fy mywyd i gan gyfeirio at fy Her 737 ond wrth wraidd hynny mae’r awyr agored.

Mae’n ddatganiad beiddgar, fodd bynnag, mae'n wir. Fe wnes i rwygo'r cartilag o’m hysgwydd dde, gan ei gwneud yn arthritig yn y pen draw. Y cyfnod yn dilyn y newyddion na fyddwn i byth yn gallu chwarae rygbi eto oedd y tywyllaf i mi, gyda'r meddyliau tywyllaf. Rygbi oedd fy mywoliaeth – roeddwn i wedi chwarae dros Gymru, wedi ennill cwpanau gyda Phontypridd a Leeds – ond yn bwysicach fyth, dyna sut roeddwn i’n diffinio fy hun. Fe wnaeth colli’r hunaniaeth honno fy nychryn wrth i mi ymaflyd â’r realiti na fyddai fy mywyd yr un fath byth eto. Mae gen i bersbectif erbyn hyn, bydd pob un ohonom yn wynebu’r cyfnodau anodd hynny mewn bywyd ac yn aml maent yn ennyn cyfleoedd neu sgiliau na fyddem wedi'u cael mewn cyfnod gwell, ond ar y pryd roedd yn ofnadwy.

Ar ôl tair wythnos yn gwella ar ôl fy ail lawdriniaeth i drwsio fy ysgwydd, yn ymaflyd â’r meddyliau tywyll yna, fe lwyddais gyda chefnogaeth fy nheulu i ddod o hyd i’r dewrder i fynd allan. Efallai bod hyn i’w weld yn ddibwys, ond rwy'n cofio'r pryder o wynebu'r byd eto. Cerddais gyda Ben, fy nghi Weimaraner, ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu i Fourteen Locks. Roeddwn i'n aros gyda’m rhieni sy'n byw yng Nghasnewydd. Yn fuan fe wnes i ymgolli yn yr awyr agored a dechreuodd fy emosiynau setlo.

Trodd yr ychydig oriau cyntaf hynny wedi’m hamgylchynu gan goetir a bywyd gwyllt, heb sôn am y gamlas fel un o ryfeddodau'r Chwyldro Diwydiannol, yn ddyddiau ac wythnosau yn dod i adnabod awyr agored Cymru. Fe wnaeth yr amser yn yr awyr agored yng nghanol byd natur fy helpu i sefydlogi fy emosiynau a’m galluogi i fyfyrio ar fy sefyllfa fy hun. Roedd bod yn egnïol eto, er nad oedd yn weithgarwch 'perfformiad uchel', yn teimlo'n anhygoel . Dwi heb edrych yn ôl o gwbl!

Yn y ddwy flynedd ddilynol, treuliais dros 10 mis yn fy mhabell ar deithiau antur ym mhedwar ban byd yn casglu gwerth oes o sgiliau a phrofiadau awyr agored a mynydda. Gyda chefnogaeth fy nhîm anhygoel, daeth y siwrnai hon i benllanw yn 2011 pan gwblheais fy Her 737, oedd yn golygu mai fi oedd y cyntaf un i ddringo'r mynydd uchaf ar bob un o 7 cyfandir y byd a sefyll ar y 3 phegwn (Pegwn y De a Phegwn y Gogledd a chopa mynydd Everest) o fewn blwyddyn galendr. Fe wnes i ei gwblhau mewn llai na 7 mis, gan greu record byd Guinness newydd.

Ers degawd rwyf wedi creu prosiectau cyntaf yn y byd, gydag addysg yn ganolog iddynt, yn rhai o gorneli mwyaf rhyfeddol y byd, yn cynnwys ffilmio cyfres Extreme Wales 1 a 2 ar gyfer y BBC, sgïo ar fy mhen fy hun heb unrhyw gymorth i Begwn y De – y Cymro cyntaf i wneud hynny, a'm prosiect Team Quest diweddar yn Antarctica.

Ond does unman yn debyg i gartref! Rydym mor ffodus yma yng Nghymru bod rhai o anturiaethau awyr agored mwyaf rhyfeddol y byd ar garreg y drws.

O gwmpas pob cornel, ym mhob cwr o Gymru, mae yna bethau llawn hud, hanes a hwyl i'w dysgu yn yr awyr agored. Fy hoff fynydd yw Cadair Idris, dwi wedi rhedeg i fyny i’w gopa, dwi wedi beicio i fyny, dwi wedi cysgu arno (ac er gwaethaf y chwedl, dydw i ddim yn fardd a hyd yn oed petawn i fyddwn i ddim callach, a dwi'n dal i fod yn gymharol gall!) a dwi wedi profi pob math o dywydd posib ar ei lethrau! Fe wnes i ryfeddu o glywed am ei darddiad folcanig.

Afon Teifi yw un o afonydd hiraf Cymru, gan gyrraedd Môr Iwerddon yn Aberteifi ond mae'n tarddu yn Llynnoedd Teifi ym Mynyddoedd Cambria. Ar ei thaith mae'n bwydo Cors Caron. Mae Cors Caron yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn un o gyforgorsydd olaf Prydain. Fe wnes i droi’n blentyn unwaith eto wrth ffilmio yno fel rhan o'm cyfres Extreme Wales. Roedd y wyddoniaeth, yr hanes a’r bywyd gwyllt yn rhyfeddol. Rwy'n dal i ddweud wrth fy ffrindiau sut mae migwyn wedi cael ei ddefnyddio i drin clwyfau dros y canrifoedd.

Mae awyr agored Cymru yn lle arbennig i feithrin ein synnwyr cynhenid o chwilfrydedd – i’r to iau a ni’r rhai hŷn hefyd!

Dyma beth sy’n gwneud ein cartref mor arbennig, hyd a lled yr anturiaethau y gallwn ni eu cael – boed hynny’n ddim mwy na mynd am dro neu wthio’n hunain i’r eithaf – gydag ychydig o ymdrech mae cymaint i'w ddysgu a'n hysbrydoli.

Beth sy'n fy ngwneud i'n drist weithiau yw nad ydym bob amser yn gwerthfawrogi ac yn defnyddio'r hyn sydd ar garreg y drws hanner digon. Hwn oedd yr angerdd wnaeth arwain at raglenni Extreme Wales a pham fy mod i’n llysgennad Croeso Cymru gweithgar a balch. Nid dim ond i arddangos Cymru i'r byd ond i ysbrydoli'r chwilfrydedd hwnnw i archwilio Cymru o'r tu mewn. 

Ar ôl dod yn rhiant yn ddiweddar, dwi'n ystyried yn gyson beth yw’r ffordd orau o baratoi fy mab ar gyfer y byd y mae'n ei etifeddu gennym ni.

Rhywbeth y rhoddodd fy rhieni i mi a’r hyn mae Jo a minnau’n teimlo'n gryf yn ei gylch yw rhoi perthynas â'r awyr agored i’n mab.

O wersylla i rasio beiciau modur, roeddwn ar fy hapusaf y tu allan! Cysylltiad â'r awyr agored yw’r cam cyntaf i ddatblygu gwerthfawrogiad o’n lle a’n cyfrifoldeb o fewn yr amgylchedd. Mae cymaint y gallwn ni ei ddysgu amdanom ni ein hunain a'n byd drwy dreulio amser yn yr awyr agored. Heb os, mae'n ystafell ddosbarth wych!

Mae amser yn yr awyr agored yn rhan bwysig o fywyd ein teulu ni ac mae'n wych dechrau dysgu ein mab am ffyrdd diogel a chyfrifol o fwynhau Cymru. Ar nodyn personol dwi'n gweld amser heb dechnoleg a therfynau amser caeth yn fwy a mwy therapiwtig.

Dwi'n dad, yn athletwr, yn awdur, yn gyflwynydd teledu ac yn hyfforddwr busnes. Dwi ddim yn meddwl gormod am y gorffennol, ond weithiau dwi'n meddwl tybed sut fywyd fyddai wedi bod gen i oni bai am awyr agored gwych Cymru. Dechreuodd fy mherthynas pan oeddwn yn blentyn drwy fy rhieni ac eto wedyn ar ôl fy anaf rygbi, mae helpu eraill i ddilyn eu llwybr eu hunain yn brofiad anhygoel.

Fe wnaeth yr awyr agored achub fy mywyd i, ac mae gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i rannu wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn destun balchder a phleser i mi.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.