Diogelwch eich storfeydd slyri...a'n hamgylchedd

Diogelwch eich storfeydd slyri...a'n hamgylchedd

CYHOEDDWYD: 21 EBR 2017

AWDUR: Huwel Manley, Operations Manager

Mae'r digwyddiad slyri difrifol diweddar yn ne-ddwyrain Cymru yn dipyn o ysgytwad i ni sy'n ymwneud â chefn gwlad Cymru.

Image of slurry going downhill on a farm

Rhuthrodd 450,000 litr o slyri tuag at nant ar ôl i wal y storfa slyri gwympo.

Diolch i feddwl chwim y ffermwr a adroddodd y digwyddiad difrifol hwn wrthon ni ac ymateb cyflym ein hasiantaethau partner, cafodd y digwyddiad ei atal rhag bod yn achos mawr o lygru.

Ond gallai hi fod wedi bod yn stori wahanol iawn.

Mae slyri yn llygrydd ofnadwy, mae'n tynnu ocsigen o ddŵr, gan ladd llawer iawn o'r bywyd sydd yn yr afon wrth iddo lifo i lawr llednentydd at brif afonydd.

Pwysigrwydd ein hafonydd

Mae'r afonydd hyn yn rhoi ystod eang o fuddiannau inni. Maen nhw'n cael eu defnyddio ar gyfer busnesau, i gyflenwi dŵr cyhoeddus ac ar gyfer hamdden - ac mae popeth yn dibynnu ar ansawdd dŵr uchel sydd hefyd yn darparu llefydd pwysig i fywyd gwyllt.

Gan i'r digwyddiad gael ei adrodd yn gyflym, roedden ni, ein partneriaid yn Nŵr Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, yn gallu gweithredu'n syth.

Llwyddon ni i ddargyfeirio nant o gwmpas y brif ardal lygru a phalu ffosydd i ddal rhyw dri chwarter o'r slyri cyn iddo gyrraedd yr afon Honddu.

Fe wnaeth y ffermwr oedd yn rhan o'r digwyddiad gysylltu â ni'n syth pan sylweddolodd beth oedd yn digwydd. Dyma fel y dylai fod. Dyma beth ddylai ddigwydd.

Hoffem annog pob ffermwr i wneud yr un fath os ydyn nhw'n amau bod eu slyri yn gollwng i'r amgylchedd ehangach.

Ond byddai'n well osgoi sefyllfaoedd fel hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Byddai'n well gennyn ni weithio gyda ffermwyr cyn i ddigwyddiad o'r fath ddigwydd - a gwneud yn siŵr eu bod yn osgoi bod yn rhan o'r gweithredu gorfodol a fyddai'n dilyn.

Gall achosi llygredd arwain at ddirwyon sylweddol, a byddai'n well pe na bai galw am weithredu mor ddifrifol.

Arweiniad ymarferol am ffermwr

Gallwn gynnig llawer iawn o arweiniad ymarferol gan gynnwys cyngor ar faint y storfa slyri sydd ei hangen, a sut i leihau faint o slyri sy'n cael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf.

Gallwn hefyd esbonio'r rheolau am bethau fel oedran y storfa slyri, y cynllun, y lleoliad a'r safonau perfformio y dylai gydymffurfio â nhw.

Mae croeso i ffermwyr gysylltu â ni i drafod sut y gallwn ni helpu, neu ewch i'n gwefan.

Mae pawb ar eu hennill oherwydd mae slyri, a'r maetholion sydd ynddo, yn nwydd rhad ac am ddim gwerthfawr i'r fferm pan fo'n cael ei ddefnyddio'n iawn.

Os caiff ei reoli a'i ddefnyddio'n gywir, gall helpu i leihau costau, cynyddu effeithlonrwydd a chnydau ac mae'n rhoi hwb i ba mor broffidiol yw'r busnes.

Mae Farming Connect yn cynnig ariannu 80% o gyngor rheoli maetholion yn unigol (ar 08456 000 813) a 100% i gynghori grŵp.  Mae gan Lywodraeth Cymru linell ffôn gyfrinachol rad ac am ddim ar gyfer ffermydd sydd mewn parth perygl nitradau, sef 01974 847 000.

Ond mae angen ystyried mwy na storio yn unig. Gall penderfynu pryd i wasgaru a dewis eich cnydau targed yn ofalus hefyd wneud gwahaniaeth mawr. Ceisiwch osgoi gwasgaru slyri ar dir soeglyd neu 48 awr cyn bod disgwyl glaw.

Wrth ddefnyddio contractwyr i wasgaru slyri dylid trafod a chytuno ar gynllun wrth gefn os aiff rhywbeth o'i le. Er enghraifft, ydy'r contractiwr yn gallu cael gafael ar gloddiwr a deunyddiau fel byrnau a allai greu byndiau i atal slyri rhag mynd i nant leol?

Mae mapiau perygl gwasgaru, neu gynlluniau rheoli tail fel y'i gelwir yn aml, yn wych i'w rhoi i gontractwyr sy'n gwasgaru ar eich rhan. Mae gwybodaeth am y rhain ar gael drwy Cyswllt Ffermio a gwefan Tried and Tested Professional Nutrient Management website.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi creu taflen ar-lein gyda chyngor sy'n defnyddio iaith syml.  Mae llawer o gyngor ar gael gan Llywodraeth Cymru hefyd.

Cysylltwch â CNC ar 03000 65 3000 neu e-bostiwch enquiries@naturalresourceswales.gov.uk i drafod sut y gallwn ni helpu.

 
Adborth