
Mae tîm Rhaglen Darparu Ynni yn gweithio’n galed i roi cynlluniau ynni ar waith, dyma Dafydd John Davies yn esbonio sut meant wedi ennill gwobr wrth helpu gychwyn prosiect ynni gwyrdd.
Rydym yn gweithio gyda datblygwyr i ddod o hyd i gyfleoedd i gydweithio a datblygu prosiectau ynni gwyrdd, megis ynni gwynt ac ynni dŵr ar Stâd Coetir Llywodraeth Cymru, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn gynharach mis yma, cawsom wahoddiad i ddigwyddiad yn y Senedd, yng Nghaerdydd i dderbyn y wobr.
Rydym yn falch iawn yn Pen y Cymoedd o ennill tystysgrif Hyrwyddwr Llais y Gymuned, am brosiect cynllun ynni dŵr raddfa fechan rydym wedi helpu i’w gychwyn.
Fe leolir Cynllun Ynni Dŵr Raddfa Fechan Cwm Saerbren yn Nhreorci, Rhondda Cynon Taf.
Mae’n gynllun 24kw, sy’n cael ei ddatblygu gan grŵp cymunedol lleol o’r enw "Welcome to Our Woods" sy’n cael ei ariannu gan Gronfa'r Loteri Fawr.
Bydd y cynllun yn cynhyrchu digon o drydan yn flynyddol ar gyfer 14 o gartref.
Mae’n brosiect eithaf unigryw o ran y ffordd daw cymuned Treherbert ynghyd ac uno pobl leol, grwpiau cymunedol a chyrff statudol allweddol i greu cyfleusterau carbon isel, fydd yn cynhyrchu incwm a gwella’r amgylchedd.
Rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth yma sy'n dangos i ni fod yr amser a’r ymdrech yr ydym yn ei roi fewn i helpu busnesau cymunedol lleol ddatblygu cynlluniau ynni dŵr ar ein tir, yn gwneud gwahaniaeth.
Amser a ymdrech yn talu ar ei ganfed
Esboniodd Ian Thomas o Welcome to Our Woods, sut mae prosiect o fudd i’r gymun
ed, yn ogystal â’r amgylchedd:
“Golyga’r math arbennig o ddatblygiad a arweinir/dymunir gan y gymuned fod safbwyntiau a syniadau pobl yn cael eu clywed.
Teimlir fod y ffordd realistig ac agored mae’r tîm wedi tynnu sylw at faterion a chyfyngiadau drwy gydol y broses hyd yn hyn, wedi gwneud gwahaniaeth."