Canolbwyntio ar hygyrchedd gwefan

Mae gwaith profi diweddar gan ddefnyddwyr ac adborth amrywiol am ein gwefan wedi arwain at ganfyddiadau diddorol. Maent wedi tynnu ein sylw at y ffaith bod angen inni wneud newidiadau mawr. Gwyddom ei bod yn rhwystredig ceisio dod o hyd i bethau ar y wefan – mae’n rhwystredig i ninnau hefyd. Er hynny, mae pethau’n dechrau newid.
Mae cyfnod cyffrous o’n blaen yn ein byd digidol gan ein bod wedi cychwyn y broses hir o drawsnewid ein gwefan yn un sy’n hawdd ei defnyddio ac yn gwbl hygyrch.
Gwefan sy’n gweithio i bawb
Mae gan tua 11 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr anabledd gan wynebu heriau beunyddiol wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.
Gall yr anableddau hyn gynnwys dallineb a golwg gwan, byddardod a cholli clyw, anableddau dysgu, cyfyngiadau gwybyddol, symudedd cyfyngedig, anableddau o ran y lleferydd, neu oleusensitifedd.
Mae angen gwefan arnom y gall pawb symud drwyddi a rhyngweithio â hi, p’un a ydych yn defnyddio bysellfwrdd yn unig, darllenydd sgrin, meddalwedd rheoli â llais, dyfais symudol neu gyfrifiadur bwrdd gwaith.
Os yw tudalennau gwe’n gwbl hygyrch, mae’n well i bawb. Mae’n haws dod o hyd i bethau, pan fo’u hangen, yn y ffordd sy’n addas i chi.
Ein gwaith hyd yma
Rydym yn gweithio i wella’r ffordd y mae darllenwyr sgrin yn darllen gwybodaeth ar lafar i ddefnyddwyr sy’n ddall neu sy’n gweld yn rhannol. Rydym yn gwneud hyn drwy lanhau ein templedi cynnwys, ychwanegu tirnodau allweddol at ein tudalennau, a gwella’r dull o symud drwy’r safle.
Dros y blynyddoedd, cafodd llawer o ddogfennau eu llwytho i’n safle yn hytrach na chael eu trosi’n gynnwys gwe, ac mae’r dull hwn wedi parhau tan yn ddiweddar.
Bellach rydym yn gwneud darn sylweddol o waith i drawsnewid cynnwys sy’n bodoli eisoes mewn dogfennau PDF a Word yn dudalennau cynnwys gwe. Bydd hyn yn helpu i bawb ddod o hyd i wybodaeth yn llawer haws, ni waeth pa ddyfais y maent yn dewis ei defnyddio.
Rydym hefyd wedi cyflwyno egwyddorion cynnwys fel bod unrhyw gynnwys newydd yn cael ei ysgrifennu mewn iaith glir, ar ffurf cynnwys digidol, heb acronymau a jargon.
Y Diwrnod Byd-eang dros Ymwybyddiaeth o Hygyrchedd
Yn 2012, lansiwyd y Diwrnod Byd-eang dros Ymwybyddiaeth o Hygyrchedd. Diben y diwrnod yw dathlu gwaith a wneir eisoes o ran hygyrchedd digidol a thynnu sylw at bwysigrwydd cynhwysiant ar bob gwefan.
Rydym yn nodi’r diwrnod hwn drwy dynnu sylw at rai yn unig o’r pethau yr ydym yn eu gwneud i wella hygyrchedd ein gwefan.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae rhai o’n defnyddwyr yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’n gwefan ar ei ffurf bresennol, rydym hefyd yn annog staff ar draws y sefydliad i roi cynnig ar rai o’r sbardunau empathi gwych.
Canolfan ragoriaeth i bopeth digidol
Yn ogystal â’n gwaith ar hygyrchedd, rydym wedi cychwyn amryw o brosiectau i wella profiad defnyddwyr ar ein gwefan.
Efallai eich bod wedi gweld y blog gan Sam, aelod o’m tîm. Os ddim, mae’n werth darllen blog y Prif Dasgau gan y bydd yn egluro llawer am y gwaith yr ydym yn ei wneud ynglŷn â’n prif dasgau ni.
Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith yr ydym wedi ei gychwyn eisoes, ac rydym wedi ymrwymo i greu gwefan wych sy’n hygyrch i bawb.
Rhannwch eich barn
Rydym wastad yn chwilio am adborth, a ph’un a yw’n dda neu’n ddrwg, rhowch wybod inni beth rydych chi'n ei feddwl.