Cynllun Prentisiaeth Cadwraeth Amgylcheddol

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am chwech o bobl i ymuno â’n cynllun prentisiaeth Cadwraeth Amgylcheddol yn ne Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 2 Hydref 2017.
Fel prentis, byddwch yn gweithio bedwar diwrnod yr wythnos gyda’n staff gweithredol gan fynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos i ennill profiad a chymwysterau gwerthfawr mewn rheoli cefn gwlad a’r amgylchedd. Mae yna bosibilrwydd hefyd o gael swydd barhaol gyda ni yn y pen draw.
Yma mae Jordan Birrell, a fu’n un o’n prentisiaid ac sydd bellach yn aelod o staff yn ein tîm Cyflawni Gweithrediadau, yn ateb rhywfaint o gwestiynau ynglŷn â’i brofiad o fod yn brentis gyda ni.
Pam y gwnaethoch chi ymgeisio am y cynllun prentisiaeth?
Pan wnes i adael yr ysgol, roeddwn i eisiau gweithio yn hytrach na mynd i’r brifysgol, felly fe wnes i ymgeisio am nifer o gynlluniau prentisiaeth mewn peirianneg – ond chefais i ddim llwyddiant.
Roedd gen i ddiddordeb mewn gweithio yn yr awyr agored ac un diwrnod gwelais fan CNC yn gyrru trwy fy nhref enedigol, Cwmbach.
Roedd gen i ddiddordeb mewn dysgu mwy am waith CNC ac edrychais ar y tudalennau swyddi. Gwelais yr hysbyseb ar gyfer y cynllun prentisiaeth – roedd i’w weld yn gyfle cyffrous, felly penderfynais ymgeisio.
Sut ydych chi wedi elwa ar y cynllun prentisiaeth?
Dechreuais y brentisiaeth ym mis Rhagfyr 2015, ac ers hynny rydw i wedi ennill nifer o sgiliau a llawer o brofiad gwych yn gweithio i CNC.
Fe wnes i gwblhau fy nghwrs yng Ngholeg Sir Gâr ac ar ddiwedd fy mhrentisiaeth roeddwn i wedi ennill cymwysterau mewn:
- cwympo a phrosesu coed ar gyfer coed hyd at 380mm
- defnyddio Cerbydau Pob Tir
- defnyddio peiriant strimio
- trin cychod ac achub (Rescue365)
Yna, penderfynais ymgeisio am swydd yn y tîm Cyflawni Gweithrediadau, a llwyddais i gael swydd barhaol. Dechreuais weithio yn y swydd ym mis Gorffennaf 2017.
Gobeithio bod hyn yn gychwyn ar yrfa hir a gwerth chweil yn CNC.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried ymgeisio am brentisiaeth?
Fe gefais brofiad gwerthfawr a gwirioneddol bleserus, felly fe fyddwn yn argymell yn gryf eu bod yn ymgeisio am brentisiaeth.
Mae’r bobl roeddwn i’n gweithio gyda nhw’n wybodus ac yn amyneddgar a dysgais lawer ganddyn nhw. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu mentoriaeth.