
Rhyw ddwy flynedd yn ôl cafodd y Tŷ Hyll ar gyrion Betws-y-coed yn Eryri er weddnewid, a hynny er gwell.
Yn awr, mae’r bwthyn cerrig enwog hwn, a reolir gan Gymdeithas Eryri, yn ganolfan atyniadol lle y gallwch ddysgu am fyd dirgel gwenyn mêl a darganfod sut i roi help llaw iddynt.
Mae’r ardd natur yn hynod hardd ac yn doreithiog o flodau llawn neithdar ar gyfer denu pryfed peillio. Gwirfoddolwyr medrus, gan gynnwys Margaret Thomas a enillodd wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn rai blynyddoedd yn ôl fel cydnabyddiaeth o’i hymdrechion aruthrol yn y Tŷ Hyll ac ar safleoedd eraill, a ddatblygodd yr ardd ac sy’n gofalu amdani.
Nid oes yr un ymweliad â’r Tŷ Hyll yn gyflawn heb baned o de a sgon yn ystafell de’r Pot Mêl! Ac i goroni’r cwbl ceir ystafell ddehongli i fyny’r grisiau, lle y gallwch ddysgu mwy am wenyn. Gallwch hefyd brynu pob mathau o geriach ‘gwenynaidd’ lleol i gofio eich ymweliad.
Felly, mae’r Tŷ Hyll yn rhoi hwb hanfodol i wenyn. Ond gwir yw dweud hefyd fod y gwenyn wedi adfywio’r ganolfan. Mae’r Tŷ Hyll yn denu mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen, ac mae’r caffi wedi creu swyddi sy’n gyfwerth â 3.5 swydd lawn amser i bobl leol. Mae’n safle pot mêl i bryfed peillio a phobl fel ei gilydd.
Pan es am dro i’r ganolfan rai wythnosau’n ôl, dywedodd Margaret wrthyf eu bod wedi llwyddo i fagu breninesau a’u rhoi wedyn i wenynwyr lleol er mwyn sefydlu cychod gwenyn newydd trwy ddefnyddio gwenyn lleol.
Mae Margaret yn awyddus i bwysleisio nad y gwenyn yn unig sy’n ffynnu yn y Tŷ Hyll. Mae’r ardd natur yn cynnal pryfed peillio o bob math – o gacwn a phryfed hofran i löynnod a gwyfynod.
Ers i’r Tŷ Hyll gael ei ailwampio, mae nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu’n raddol – gyda bron i 40,000 o bobl yn ymweld â’r lle bob blwyddyn. Mae grwpiau ysgol lleol hefyd yn ymwelwyr rheolaidd â’r ganolfan.
Mae’r Tŷ Hyll ar agor saith diwrnod yr wythnos tan ddiwedd mis Tachwedd. I gael rhestr lawn o’r oriau agor a mwy o wybodaeth, ewch i www.tyhyll.co.uk
Ariannwyd y gwelliannau I Dŷ Hyll yn rhannol drwy’r cynllun Natur a Chymunedau, o gronfa ERDF.