Derek Morgan gyda’r coed wed’u plannu

Mae ffermwr defaid o Bowys wedi cofleidio wyneb newidiol ffermio ac wedi plannu coed er mwyn creu llif incwm newydd ac i helpu'r amgylchedd.

Ym mis Mawrth eleni, plannodd Derek Morgan o fferm Safn Coed ger Llangurig, Powys, 50000 o goed ar 18 hectar o’i fferm 80 hectar, trwy gynllun Creu Coetir Glastir Llywodraeth Cymru. 

Yn ogystal â darparu ffynhonnell incwm am ddeuddeng mlynedd, mae'r coed yn helpu i leddfu llifogydd, brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd trwy storio carbon a darparu cynefin i fywyd gwyllt.

Bu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy'n sicrhau bod cynigion Creu Coetir Glastir yn cwrdd â safonau llym, yn gweithio gyda Derek a'i asiant yn Llanymddyfri, Alan Wilson MICFor o Tilhill Forestry i ddyfeisio cynllun plannu sy'n gwella'r dirwedd leol.

Plannwyd rhannau uwch a mwy serth y daliad gyda chymysgedd o goed llydanddail fel derw a bedw a chonwydd, e.e. Sbriws Sitka. 

Bydd hyn yn ychwanegu at gynefin coetir presennol y fferm, gan ymestyn coridor presennol y dyffryn o fathau o goetiroedd cymysg ac yn darparu ffynhonnell incwm gynaliadwy o bren yn y tymor hwy. 

O fewn 12 mlynedd, bydd y cnwd cyntaf wedi’i deneuo yn darparu pren diamedr bach i'w ddefnyddio ar y fferm ac i'w werthu oddi ar y fferm. 

Bydd plannu, cynnal a chadw a chwympo coed yn y pen draw yn creu cyflogaeth leol. 

Gwnaed y gwaith plannu gan Tilhill Forestry ar ôl derbyn grant plannu Creu Coetir cychwynnol, a fydd yn cael ei ategu gan grant cynnal a chadw blynyddol am gyfnod o ddeuddeng mlynedd. 

Meddai Derek Morgan: 

“Prynodd fy nhad-cu Safn Coed ym 1947 ac rydw i wedi byw yma am y rhan fwyaf o’m bywyd. Y fferm deuluol fach yw asgwrn cefn bywyd ffermio Cymru ac rwy’ am gadw hynny a chadw'r fferm yn y teulu. 
“Nid yw defaid mor broffidiol ag roedden nhw ar un adeg ac ni fyddai’r fferm yn gallu cynnal teulu fel y mae ar hyn o bryd, felly rwy’n arallgyfeirio. 
“Dewisais blannu coed fel buddsoddiad tymor hir. ’Dwy’ i ddim yn mynd yn iau a bydd cyfnewid rhywfaint o fy stoc ddefaid am gnwd pren y gellir ei farchnata yn lleddfu fy llwyth gwaith wrth imi agosáu at oed ymddeol ac yn gwarchod fferm y teulu. 
“Hanner can mlynedd yn ôl, cefais fy nhalu i glirio’r tir hwn, gan mai’r ffocws ar ôl y rhyfel oedd gwneud y mwyaf o gynhyrchu er mwy dod, fel gwlad, yn hunan ddibynnol ar fwyd. 
"Heddiw, mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn wahanol. Mae ffermwyr yn gwbl ymwybodol o newid yn yr hinsawdd ac mae'r cynllun hwn yn rhoi cyfle i helpu brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd trwy gloi carbon o'r atmosffer ac mae'n helpu i leihau perygl llifogydd. 
“Pawb at y peth y bo”. Os yw'n gweddu i'ch menter fferm, ewch amdani - mae'r wobr yn ariannol yn ogystal ag yn un amgylcheddol. 
“Rydyn ni'n lwcus yma - mae barcutiaid coch wedi bod yma gyda ni o’r dechrau. Bydd y coed sydd newydd eu plannu yn gwella poblogaeth yr adar a gobeithio y byddwn ni'n gweld mwy o ysgyfarnogod hefyd.” 

Meddai Llinos Roberts, Cynghorydd Rhaglen Coetir CNC: 

"Mae coetiroedd yn darparu nifer o fuddion i'r amgylchedd. Maen nhw’n helpu i leihau llygredd sŵn, gwella ansawdd aer, pridd a dŵr, darparu cysgod i dda byw a lliniaru'r perygl o lifogydd. 
“At hyn, nid yn unig y mae pren yn adnodd cynaliadwy ac adnewyddadwy, ond mae’n wybyddys bod ein coetiroedd yn gwella ein hiechyd a’n lles trwy ddarparu cyfleoedd hamdden ac maen nhw’n hafanau i bob math o fioamrywiaeth. 
“Mae Creu Coetir Glastir yn sicrhau bod y goeden iawn yn cael ei phlannu yn y lle iawn, mewn ffordd sy'n cydnabod sensitifrwydd presennol, ac mae CNC yn chwarae rhan ganolog yn y broses hon. 
“Mae CNC yn gweithio gyda phob ymgeisydd i sicrhau bod unrhyw blannu newydd yn amddiffyn bywyd gwyllt a’r amgylchedd, yn gwella’r dirwedd leol ac yn rheoli ein hadnoddau naturiol yn ofalus.”