Man fly-fishing in a river

Mae Is-ddeddf Frys i amddiffyn stociau eogiaid yn Afon Hafren sy’n agored i niwed yn cael ei chyflwyno gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Daw hyn ar ôl i'r ffigurau stoc diweddaraf ddatgelu gostyngiad sylweddol yn nifer yr eogiaid, gan wthio'r afon i'r categori 'mewn perygl yn ôl pob tebyg'.

Mae’r Is-ddeddf, sy'n dod i rym ar 28 Medi 2019, yn gwneud dal a rhyddhau eog wedi'i ddal â gwialen yn orfodol ar hyd afon Hafren gyfan yng Nghymru.

Dywedodd Peter Gough, Prif Gynghorydd pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Nid yw wedi bod yn benderfyniad hawdd i'w wneud ond rydym yn gwneud hyn oherwydd yr angen dybryd i ddiogelu stociau eogiaid gwyllt sydd wedi lleihau i lefelau poblogaeth anghynaladwy mewn llawer o'n hafonydd.
"Mae'r gostyngiad yn y niferoedd yn golygu y gallai pob pysgodyn a ddychwelir yn ddiogel gyfrannu at wella'r boblogaeth silio'r hydref hwn.
"Mae hyd yn oed niferoedd cymharol fach o bysgod yn hanfodol er mwyn adfer stociau mewn cyn lleied o amser â phosibl.
"Nid dim ond mewn afonydd yng Nghymru a Lloegr y mae'r gostyngiad, ond drwy'r holl ystod o eogiaid ar draws Gogledd yr Iwerydd."

Mae'r is-ddeddfau brys yn efelychu'r lefel bresennol o warchodaeth ar gyfer eogiaid a gyflwynwyd i rannau Lloegr o Afon Hafren gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn gynharach eleni, gan sicrhau ymagwedd dalgylch integredig at reoli stociau pysgod mudol.

Dim ond un rhan o raglenni cenedlaethol mwyaf CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd i ddiogelu stociau eogiaid yw lleihau faint o eogiaid gaiff eu lladd.

Mae'r camau a gymerir gan CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd a'u partneriaid yn cynnwys dileu rhwystrau, gwella ansawdd dŵr, lleihau ysglyfaethu, rhoi arferion amaethyddol gwell ar waith a mynd i'r afael ag unrhyw gamau tynnu dŵr anghynaladwy.

Ychwanegodd Peter:

"Rydym yn deall yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bysgotwyr, ond dim ond drwy gymryd camau pendant a chadarn y bydd ein stociau yn cael y cyfle i ddychwelyd i lefelau cynaliadwy yn gynnar.
"Rydym am weithio gyda'r cymunedau pysgota i ddiogelu ein pysgod a'n pysgodfeydd er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Bydd cyflwyno rheolaethau newydd yn gam cadarnhaol o ran helpu i ddiogelu'r stoc."