Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog perchnogion tanciau olew domestig i gynnal gwiriadau rheolaidd i osgoi costau ychwanegol ac atal difrod amgylcheddol y gaeaf hwn.

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar ddeiliaid tai i sicrhau nad yw eu cyfleusterau storio’n achosi llygredd, ond er hynny, mae digwyddiadau’n ymwneud â gollyngiadau a gorlenwi tanciau yn digwydd bob blwyddyn.

Os bydd dŵr yn mynd i mewn i danc dur, mae’n gallu achosi cyrydu ac mewn tywydd oer iawn gall dŵr ehangu a rhewi gan arwain at dorri peipiau a gosodiadau, a gallai tanciau plastig fod wedi diraddio dan straen y tywydd eithafol yn ystod yr haf.

Mae gollyngiadau tanwydd yn achosi difrod pellgyrhaeddol i’r amgylchedd – mae’n gallu lladd planhigion, niweidio bywyd gwyllt, llygru afonydd a halogi dŵr yfed.

Gall colledion tanwydd olygu bod deiliaid tai yn wynebu costau ail-gyflenwi tanwydd, yn ogystal â’r potensial o orfod talu miloedd o bunnoedd i lanhau ar ôl gollyngiad, gyda chostau’n gallu cyrraedd hyd at £100,000.

Mae teuluoedd wedi gorfod gadael eu cartrefi wrth i danwydd gael ei lanhau o’u heiddo.

Meddai Huw Jones, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd yn CNC:
“Wrth i ni agosáu at dymor y gaeaf, mae’n bwysig i ddeiliaid tai wirio eu tanciau a’u pibelli’n rheolaidd i sicrhau eu bod wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, yn enwedig cyn llenwi’r tanc.
“Trwy wirio’r tanc yn rheolaidd, gallwch leihau’r posibilrwydd o golli arian o ganlyniad i golli olew, costau glanhau a helpu i ddiogelu eich amgylchedd lleol.
“Un arwydd bod eich tanc yn gollwng yw pan fo cyfaint yr olew yr ydych chi’n ei ddefnyddio’n cynyddu’n sydyn. Os ydych chi’n gweld unrhyw beth sy’n peri pryder neu sydd wedi newid ers i chi wirio’r tanc y tro diwethaf, dylech ofyn am gyngor gan weithiwr olew gwresogi proffesiynol.”

Mae’r camau i helpu i atal gollyngiad olew yn cynnwys llenwi eich tanc yn ofalus, gan sicrhau bod y gyrrwr sy’n cludo’r tanwydd yn defnyddio’r man diogel i lenwi a bod digon o le i’r olew yn eich tanc, gwirio sylfaen y tanc neu’r hyn sy’n ei gynnal gan chwilio am graciau neu ymsuddiant, a gwirio’r holl bibellau, falfiau a rhidyllau gweledol am unrhyw ddifrod neu arwydd o ollwng.

Fe’ch cynghorir hefyd i wirio byndiau eilaidd i asesu a oes unrhyw hylif neu sbwriel yno, a sicrhau bod cynwysyddion diferu ar gyfer pibellau llenwi o bell yn glir o unrhyw olew, dŵr, dail neu sbwriel.

Dylai deiliaid tai hefyd wirio a yw eu hyswiriant cartref yn cynnwys gollyngiad olew, gan gynnwys costau glanhau olew ar eich eiddo, eiddo cymdogion ac ymdreiddiad i’r tir neu i gyrsiau dŵr.

Am ragor o fanylion, ewch i Gwiriadau Tanciau Olew cyson - Oil Care Company

Dylech adrodd unrhyw amheuaeth o lygredd neu ddigwyddiadau amgylcheddol eraill i CNC drwy ddefnyddio’r llinell ffôn 24 awr: 0300 065 3000 neu e-bostio icc@naturalresourceswales.gov.uk