Profiad Gwaith i Fyfyrwyr - Cynorthwyydd Canolfan Ymwelwyr a Rheoli Tir - 23.24-027
Mae hwn yn gyfle Profiad Gwaith i Fyfyrwyr a gynigir i helpu'r myfyriwr/myfyrwyr ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad. Mae'n caniatáu i'r tîm sy’n gyfrifol am y lleoliad rannu eu gwybodaeth a chael profiad o weithio gyda phobl ifanc wrth hyrwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector amgylcheddol ehangach.
Teitl y lleoliad: |
Cynorthwyydd Canolfan Ymwelwyr a Rheoli Tir |
Cyfarwyddiaeth: |
Gweithrediadau Gogledd a De |
Tîm |
Tîm Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin a Thimau Rheoli Tir lleol |
Rhif lleoliad: |
23.24-027 |
Rheolwr y Lleoliad: |
Nia Brunning |
Dyddiad dechrau: |
17/7/23 |
Dyddiad gorffen: |
20/7/23 |
Patrwm gwaith: |
Llun – Iau |
Ble bydd y myfyriwr/myfyrwyr yn cael ei leoli/eu lleoli: |
Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin |
Y Gymraeg: |
Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg |
Tasgau allweddol y lleoliad: |
Cynorthwyo i redeg y ganolfan ymwelwyr o ddydd i ddydd a helpu gyda thasgau rheoli tir. |
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cyfle hwn ar gael i fyfyrwyr 15 oed a throsodd.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud
Byddwch yn helpu tîm ein canolfan ymwelwyr i gyfarfod a chyfarch ymwelwyr, cadw'r safle'n lân ac yn daclus ac yn ddiogel i'n hymwelwyr a helpu i redeg y safle o ddydd i ddydd. Byddwch yn cysgodi ein staff rheoli tir ac yn helpu gydag amrywiaeth o dasgau gan gynnwys cadwraeth, peirianneg sifil, a rheoli coedwigoedd.
Y bobl y byddwch yn gweithio gyda nhw
Byddwch yn gweithio gyda'n tîm canolfan ymwelwyr a staff rheoli tir lleol.
Ble y byddwch chi'n gweithio
Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin a'r cyffiniau
Y wybodaeth a sgiliau y bydd eu hangen arnoch
Bydd angen i chi fod yn gyfeillgar, yn hawddgar, yn barod i weithio fel rhan o dîm a mwynhau amgylchedd gwaith amrywiol a chyflym weithiau.
Gwybodaeth arall sy'n berthnasol ar gyfer eich lleoliad
Bydd angen i chi fynd i Ganolfan Ymwelwyr Coed y Brenin bob dydd a chael eich casglu oddi yno ar ddiwedd y dydd oni bai bod trefniadau eraill yn cael eu gwneud.
Mae'r lleoliad hwn ar gyfer pedwar myfyriwr.
Gwybodaeth am yr Hysbyseb Lleoliad
Er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y lleoliad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'n gofyn i chi gwrdd â ni i drafod y lleoliad.
Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol i chi gwblhau Cytundeb Lleoliad sy'n nodi'r cyfrifoldebau a disgwyliadau ar gyfer y lleoliad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 18/06/2023
I wneud cais: anfonwch eich Ffurflen Gais wedi'i chwblhau a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb i lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Am ragor o fanylion: cysylltwch â Rheolwr y Lleoliad.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, a phobl ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis sylfaenol.
Rydym yn gyflogwr delfrydol am ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.