Defnyddiwch y dudalen hon i wybod lefel eich Cymraeg.

Byddwn yn gofyn am lefel eich Cymraeg llafar ac ysgrifenedig pan fyddwch yn gwneud cais am swydd gyda ni.


A0 – Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg


Dealltwriaeth  

  • Nid wyf yn gallu deall Cymraeg

Siarad 

  • Nid wyf yn gallu siarad Cymraeg

Darllen 

  • Nid wyf yn gallu darllen Cymraeg, ond gallaf adnabod geiriau/arwyddion cyfarwydd ynghyd â lluniau 

Ysgrifennu 

  • Nid wyf yn gallu ysgrifennu yn Gymraeg


A1 – Lefel mynediad


Dealltwriaeth 

  • Rwy’n gallu deall cyfarchion syml bob dydd

  • Rwy’n gallu deall testun byr, lle mae pobl wedi darparu gwybodaeth bersonol sylfaenol amdanaf fi neu eraill, er enghraifft ar ffurflenni

  • Rwy’n gallu deall ymadroddion syml

Siarad 

  • Rwy’n gallu defnyddio cyfarchion bob dydd cyfarwydd ag ymadroddion sylfaenol iawn

  • Rwy’n gallu cyflwyno fy hun i eraill, gofyn ac ateb cwestiynau am fanylion personol, er enghraifft lle mae person yn byw a gweithio, beth maen nhw’n hoffi gwneud a phwy maen nhw’n adnabod, amseroedd a rhifau

  • Rwy’n gallu cyfathrebu mewn ffordd syml os yw’r person yn siarad yn araf ac yn glir

Darllen 

  • Nid wyf yn gallu darllen Cymraeg, ond gallaf ddeall testunau byr a syml iawn, enwau cyfarwydd, geiriau ac ymadroddion sylfaenol

Ysgrifennu 

  • Rwy’n gallu cyfleu neges ysgrifenedig syml neu wneud cais syml, er enghraifft drwy e-bost


A2 – Lefel sylfaen 


Dealltwriaeth

  • Rwy’n gallu deall pan fydd pobl yn siarad yn araf, brawddegau am sefyllfaoedd cyfarwydd bob dydd, er enghraifft gwybodaeth bersonol a gwybodaeth deuluol sylfaenol, trafod materion syml sy’n gysylltiedig ȃ gwaith, gan gynnwys beth mae person wedi’i wneud neu beth fyddent yn wneud

  • Rwy’n gallu deall negeseuon ysgrifenedig am faterion bob dydd a llythyrau neu e-byst syml

Siarad

  • Rwy’n gallu cynnal sgwrs syml am bynciau cyfarwydd bod dydd, disgrifio agweddau amdan fy ngorffennol a materion am fy anghenion uniongyrchol

Darllen

  • Gallaf ddarllen a deall testunau byr, syml ar faterion cyfarwydd 

Ysgrifennu

  • Rwy’n gallu ysgrifennu negeseuon byr am bynciau cyfarwydd bob dydd gyda chydweithwyr, er enghraifft trosglwyddo neges


B1 – Lefel canolradd


Dealltwriaeth

  • Rwy’n gallu deall y prif bwyntiau pan fydd person yn trafod materion ar bynciau bob dydd sy’n ymwneud tu mewn neu du allan y gweithle, neu pan fydd materion gwaith yn cael eu trafod, er enghraifft mewn sgwrs, neu mewn cyfarfod grŵp bach

  • Rwy’n gallu deall erthyglau neu negeseuon e-bost uniongyrchol sy’n ymdrin â phynciau neu bynciau sy’n ymwneud â gwaith dyddiol 

Siarad

  • Rwy’n gallu cynnal sgwrs estynedig gyda siaradwr Cymraeg ar bwnc cyfarwydd sy’n ymwneud gyda diddordebau, teithio, neu bynciau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith

  • Rwy’n gallu disgrifio profiadau a digwyddiadau, gobeithion ac uchelgeisiau, rhoi eglurhad byr a rhesymau am fy marn a’n cynlluniau

Darllen

  • Rwy’n gallu darllen a deall erthyglau neu negeseuon e-bost uniongyrchol yn ymdrin â phynciau neu yn ymwneud gyda gwaith dyddiol

Ysgrifennu

  • Rwy’n gallu ysgrifennu llythyr neu e-bost ar bynciau cyfarwydd, er enghraifft gofyn am bethau, rhoi gwybodaeth, gwahodd person neu drefnu digwyddiad


B2 – Lefel ganolradd uwch 


Dealltwriaeth

  • Rwy’n gallu deall mwyafrif o drafodaethau gan gynnwys rhai trafodaethau technegol, er enghraifft trafodaethau sy’n digwydd mewn cyfarfodydd

Siarad

  • Rwy’n gallu cyfathrebu a mynegi barn ar faterion cyfarwydd sy’n gysylltiedig â gwaith, er enghraifft mewn cyfarfodydd

  • Rwy’n gallu disgrifio materion yn ymwneud gyda gwaith yn glir ac ymhelaethu gydag esiampla

Darllen 

  • Rwy’n gallu darllen a deall y mwyafrif o wybodaeth gan gynnwys rhai agweddau technegol yn ymwneud â gwaith

Ysgrifennu

  • Rwy’n gallu ysgrifennu darnau byr ar ystod eang o bynciau yn ymwneud gyda fy ngwaith a meysydd o ddiddordeb gyda chymorth gwiriwr sillafu, geiriadur neu gymorth technegol

  • Rwy’n gallu cymryd nodiadau neu ysgrifennu adroddiadau, gan gynnwys fy marn ar fanteision ac anfanteision opsiynau


C1 – Lefel hyfedredd


Dealltwriaeth

  • Rwy’n gallu dilyn rhan fwyaf o sgyrsiau neu drafodaethau, hyd yn oed ar bynciau anghyfarwydd, oni bai bod person yn siarad gydag acen gref ac anghyfarwydd, er enghraifft mewn cynhadledd neu wrth siarad ar bwnc ar dechnegol neu arbenigol iawn

Siarad

  • Rwy’n gallu siarad yn hyderus â siaradwyr rhugl am bynciau cyfarwydd sy’n ymwneud gyda bywyd bob dydd a materion gwaith

  • Rwy’n gallu mynegi fy marn, cymryd rhan mewn trafodaethau, siarad yn health ar bynciau cyffredinol

Darllen

  • Rwy’n gallu deall y mwyafrif o ohebiaeth, erthyglau papurau newydd ac adroddiadau ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl, gyda chymorth geiriadur, ac i sganio testun hir i ddod o hyd i fanylion

Ysgrifennu

  • Rwy’n gallu ysgrifennu erthyglau byr, llythyron busnes ac adroddiadau ar ystod o bynciau cyffredinol, neu yn ymwneud â gwaith, ac ymateb yn gywir i’r mwyafrif o ohebiaeth gan gysylltiadau mewnol neu allanol gyda chymorth golygyddol


C2 – Lefel hyfedredd uwch 


Dealltwriaeth

  • Rwy’n gallu deall bron popeth a ddywedwyd neu a glywyd

  • Rwy’n gallu crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau llafar ac ysgrifenedig, ail-greu dadleuon a disgrifiadau mewn cyflwyniad rhesymegol

Siarad

  • Rwy’n gallu siarad yn health ar faterion cymhleth, cyflwyno dadleuon, ac arwain trafodaethau (er enghraifft rhoi cyflwyniadau neu gyfweliadau i’r wasg yn Gymraeg)

  • Rwy’n gallu mynegi fy hun yn rhugl a manwl, addasu fy arddull iaith yn ôl y gynulleidfa, er enghraifft  mewn cyd-destun ffurfiol neu anffurfiol (megis cynnal trafodaethau, defnyddio termau technegol)

Darllen

  • Rwy’n gallu crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau ysgrifenedig, ail-greu dadleuon a disgrifiadau mewn cyflwyniad rhesymegol

Ysgrifennu

  • Rwy’n gallu ysgrifennu llythyron ac e-byst ffurfiol yn Gymraeg gyda chymorth golygu, ac ysgrifennu adroddiadau yn Gymraeg

  • Rwy’n gallu cymryd nodiadau cywir mewn cyfarfodydd a seminarau

 

Diweddarwyd ddiwethaf