Dull STAR - Nodiadau canllaw ar gwblhaur ffurflen gais
Cymerwch ofal wrth lenwi'r ffurflen gais, os gwelwch yn dda. Bydd penderfyniad y panel i osod eich enw ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad yn seiliedig yn gyfan gwbl ar y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi.
Cyn i chi ddechrau eich cais
- Mae gan bob un o'n swyddi ddisgrifiad swydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y disgrifiad swydd yn drylwyr cyn llenwi'r ffurflen gais.
- Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
- Oni bai eich bod yn dangos yn glir yn eich cais sut rydych yn bodloni’r holl ofynion a amlinellir yn yr adran ‘Pwy ydych chi’ yn ein disgrifiad swydd, efallai na fydd eich enw yn cael ei roi ar y rhestr fer.
- Os nad oes digon o le ar y ffurflen gais i chi nodi'ch gwybodaeth, parhewch ar ddalen ar wahân os gwelwch yn dda, gan nodi'n glir y rhan o'r ffurflen y mae'r wybodaeth yn cyfeirio ati.
- Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw'n gwbl gyfrinachol.
Swydd rydych yn gwneud cais amdani
Os gwelwch yn dda, nodwch yn glir ar y ffurflen gais deitl swydd a rhif swydd y swydd rydych yn gwneud cais amdani; mae’r manylion i'w gweld ar ein hysbysebion swydd. Os na nodir hyn, efallai na chaiff eich cais ei ystyried.
Bodloni ein gofynion
Mae gofyn i chi ddefnyddio’r dull STAR (situation, task, action, result) i ddangos sut rydych chi’n bodloni’r gofynion rydym wedi’u hamlinellu yn yr adran ‘Pwy ydych chi’ yn ein disgrifiadau swydd.
Beth yw ystyr dull STAR
- Sefyllfa - y sefyllfa y bu'n rhaid i chi ddelio â hi
- Tasg - y dasg a roddwyd i chi ei chyflawni
- Gweithredu - y camau a gymerwyd gennych
- Canlyniad - beth ddigwyddodd o ganlyniad i'ch gweithred a'r hyn a ddysgoch
Sut i ddefnyddio STAR
Gallwch ddefnyddio'r dull STAR i strwythuro'r enghreifftiau ac i dynnu sylw at sgiliau a rhinweddau penodol sydd gennych y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt.
Wrth ddefnyddio STAR, cofiwch:
- gallwch ddefnyddio enghreifftiau o gyflogaeth gyfredol a blaenorol, cartref neu wirfoddoli
- cadwch yr enghreifftiau’n fyr ac i'r pwynt
- ceisiwch gyfleu eich pwyntiau mewn ffordd sgyrsiol er mwyn peidio ag ymddangos eich bod wedi eu hymarfer
- byddwch yn barod i ateb cwestiynau dilynol am yr enghreifftiau y byddwch yn eu rhoi
Enghraifft
Arddangos arweinyddiaeth a menter:
Y sefyllfa - yn fy swydd farchnata ddigidol flaenorol, roedd y cwmni eisiau cael mwy o bobl i gofrestru ar gyfer cylchlythyr oedd heb fod yn cael llawer o sylw.
Tasg - fy swydd i oedd dod o hyd i ffordd o gael mwy o bobl i gofrestru.
Gweithredu - Trefnais gyfarfod gydag aelodau pwysig eraill o'r tîm marchnata er mwyn meddwl am syniadau creadigol, ac arweiniais yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb yn y cylchlythyr ar ei newydd wedd.
Canlyniad - dros gyfnod o 3 mis, bu cynnydd o 25% yn y nifer a gofrestrodd ar gyfer y cylchlythyr a defnyddiwyd y dull a gymerais i gan y tîm rheoli mewn adrannau eraill.
Trwydded Yrru
Mae meddu ar drwydded yrru car gyfredol, lawn y DU/UE yn aml yn ofynnol ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi CNC. Bydd angen i chi ddangos eich trwydded os byddwch yn dod am gyfweliad.
Sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg
Fel sefydliad dwyieithog rydym yn defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn ein gwaith. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog - yn y Gymraeg a’r Saesneg - i’r cyhoedd. Mae rhai swyddi y mae cymhwyster dwyieithog yn hanfodol ar eu cyfer, yn dibynnu ar leoliad a maint y cyswllt â'r cyhoedd. Bydd ein disgrifiadau swydd yn dweud wrthych beth yw gofyniad iaith y swydd rydych yn gwneud cais amdani.
Dewis iaith ar gyfer cyfweliad
Fel sefydliad dwyieithog rydym yn defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn ein gwaith.
Os byddwch yn dewis cael eich cyfweld yn y Gymraeg, byddwn yn darparu panel cyfweld dwyieithog. Caiff rhan o'r cyfweliad ei gynnal yn Saesneg fel y gallwn brofi eich Saesneg llafar.
Os dewiswch gael eich cyfweld yn y Saesneg ar gyfer swydd lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, bydd rhan o'r cyfweliad yn Gymraeg fel y gallwn brofi eich Cymraeg llafar.
Anabledd
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 rydym yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol pan fydd person anabl o dan anfantais sylweddol, naill ai oherwydd y trefniadau gwaith neu’r amgylchedd gwaith.
Ni fydd y cyfrifoldeb i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol oni bai ein bod yn gwybod bod gennych anabledd. Dyma'r adran lle gallwch roi gwybod i ni.
Symbol Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Drwy ddefnyddio'r symbol hwn rydym wedi cytuno y byddwn yn cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer swydd wag.
Defnyddiwch yr adran hon os dymunwch wneud cais dan y cynllun hwn. Rydych yn sicr o gael cyfweliad os ydych yn bodloni'r meini prawf gofynnol y cytunwyd arnynt gan y panel cyn llunio'r rhestr fer.
Sut i ddychwelyd eich ffurflen gais
Os gwelwch yn dda, dychwelwch neu e-bostiwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau i applications@naturalresourceswales.gov.uk erbyn y dyddiad cau penodedig, gan ddyfynnu rhif y swydd fel cyfeirnod.
Cydnabod ceisiadau
Nid ydym fel arfer yn cydnabod derbyn ceisiadau, ond mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch cais ar recruitment@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Graddfa Amser ar gyfer recriwtio
Mae’r dasg o lunio’r rhestr fer fel arfer yn dechrau yn fuan ar ôl y dyddiad cau.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam llunio rhestr fer, byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion y cyfweliad. Sylwch, os gwelwch yn dda, ein bod yn cyhoeddi dyddiadau ein cyfweliadau ar yr hysbyseb swydd. Byddwch mor garedig â dweud wrthym os oes angen unrhyw gymorth neu ofynion arbennig eraill arnoch er mwyn gallu mynychu'r cyfweliad a bydd aelod o'r tîm Recriwtio yn hapus i’ch helpu.
Os byddwch yn aflwyddiannus yn y cam llunio rhestr fer, byddwn yn anfon e-bost atoch cyn gynted ag y bydd y broses o lunio’r rhestr fer wedi'i chwblhau. Yn anffodus, oherwydd y nifer fawr o geisiadau a gawn, ni allwn ddarparu adborth unigol ar hyn o bryd.
Bydd Cadeirydd y cyfweliad yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cyfweliad cyn gynted â phosibl neu'n rhoi graddfa amser pryd y gallwch ddisgwyl ymateb. Mae croeso i chi ofyn am adborth gan y Tîm Recriwtio yn dilyn eich cyfweliad.
Os ydych wedi bod yn llwyddiannus, bydd aelod o’r panel cyfweld yn cysylltu â chi i drafod eich cynnig. Os byddwch yn dewis derbyn y swydd, bydd y tîm Recriwtio yn anfon cynnig cyflogaeth atoch ac yn eich cefnogi drwy'r broses cyn-ymuno.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch cais neu’r broses recriwtio, cysylltwch â’r tîm recriwtio, os gwelwch yn dda:
ebost: recruitment@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Post: Recriwtio, Cyfoeth Naturiol Cymru, Maes y Ffynnon, Ffordd Penrhos, Bangor, LL57 2DW