Dadansoddwr Diogelwch Gwybodaeth

Dyddiad cau: 30/03/2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 - £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Digidol, Data a Thechnoleg / Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Cyflog cychwynnol: £36,246

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amswer, 37 awr yr wythnos 

Dyddiad cyfweld: 28/04/2025

Rhif swydd: 203864

Y rôl

Fel Dadansoddwr Diogelwch Gwybodaeth, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth reoli a gwella gweithrediadau diogelwch TGCh y sefydliad. Byddwch yn ymateb i ddigwyddiadau, achosion o dor-diogelwch a cheisiadau o fewn cwmpas y tîm, gan ddefnyddio profiad a sgiliau datrys problemau i ymchwilio a datrys mewn modd amserol ac effeithlon.

Bydd y swydd hon yn gweithio gyda'r busnes i gwblhau Asesiadau Effaith Diogelu Data i gydymffurfio â safonau deddfwriaethol. Mae'r swydd hon yn rhan o dîm o arbenigwyr Gwybodaeth a Seiberddiogelwch, sy'n gweithio'n agos gyda Chynghorwyr Arbenigol eraill a Dadansoddwyr, Uwch Arbenigwr/Arweinydd Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, Uwch Arbenigwr Seiberddiogelwch. 

Byddwch yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys yr Uwch Arbenigwr/Arweinydd Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, Swyddog Diogelu Data, Rheolwr Diogelwch TGCh, Pennaeth DDaT, a’r Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO). Mae'r rôl hon yn gyfrifol am oruchwylio'r cylch dadansoddi risg ac adrodd chwarterol, gan weithio'n uniongyrchol gyda Phennaeth DDaT i sicrhau rheolaeth effeithiol o risgiau diogelwch TGCh.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Tracey Gilliland ar Tracey.Gilliland@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi ymrwymo i warchod a gwella amgylchedd naturiol Cymru. Fel sefydliad hanfodol, mae CNC yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan sicrhau bod ein tir, ein dŵr, a’n bioamrywiaeth yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r tîm Diogelwch TGCh yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Digidol ehangach, sy’n canolbwyntio ar alluogi CNC i gyflawni ei gyfrifoldebau amgylcheddol a rheoleiddiol yn effeithiol drwy atebion digidol diogel ac effeithlon. Mae’r tîm Diogelwch DDaT yn gweithio'n agos gyda chyfarwyddiaethau amrywiol ar draws y sefydliad, gan sicrhau bod systemau TGCh, data, gwybodaeth ac asedau yn ddiogel wrth gefnogi nodau strategol CNC. Mae blaenoriaethau'r tîm yn cynnwys cynnal seilwaith TGCh gwydn, rheoli risg yn effeithiol, a sbarduno gwelliant parhaus mewn arferion seiberddiogelwch i amddiffyn rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i fod yn rhan o dîm ymroddedig a chydweithredol sy’n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau diogelwch a chadernid gweithrediadau digidol CNC.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Byddwch yn gwneud amrywiaeth o waith ac yn rheoli prosiectau bach o natur dechnegol/arbenigol.
  • Byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad i unigolion nad ydynt efallai'n gyfarwydd â'ch disgyblaeth dechnegol/arbenigol.
  • Byddwch yn drafftio dogfennau technegol neu arbenigol, a hynny ar sail amrywiaeth o ffynonellau.
  • Byddwch yn dadansoddi ac yn dehongli ystod o ddata a gwybodaeth dechnegol/arbenigol.
  • Byddwch yn datrys problemau drwy ddarparu atebion technegol/arbenigol sy'n gofyn am rywfaint o ymchwilio a dadansoddi.
  • Byddwch yn ymwneud â phrosesu neu wirio gwybodaeth ariannol.
  • Byddwch yn rhoi cymorth ac arweiniad i weithwyr newydd neu dros dro.
  • Byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am ddefnydd diogel ac effeithiol o offer a gwybodaeth CNC.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Lefel uchel o arbenigedd technegol a sgiliau yn canolbwyntio ar systemau diogelwch a thechnoleg gysylltiedig mewn amgylchedd rhwydweithiol dros sawl safle, yn meddu ar yr ardystiadau/cymwysterau canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
  2. Profiad o offer diogelwch.
  3. Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da; cyfforddus a hyderus wrth ddelio â sefyllfaoedd/unigolion heriol, ac ymrwymiad clir i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a phrofiad da i’r defnyddiwr.
  4. Y gallu i ddadansoddi materion a cheisiadau TGCh, gan ddefnyddio'r technegau dadansoddi priodol.  Er mwyn gwneud hyn, mae'n bwysig gallu amsugno gwybodaeth newydd yn rhwydd, wrth i systemau newydd ddod i mewn i gylch gwaith y tîm a gallu deall a dogfennu gofynion defnyddwyr.
  5. Y gallu i weithio o fewn amgylchedd prysur iawn, i fynd ati’n rhagweithiol i gynllunio a chydlynu adnoddau i gyflawni canlyniadau o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt a thrwy weithio’n hyblyg, gan flaenoriaethu pan fydd problemau a cheisiadau blaenoriaeth uchel yn cyrraedd y Ddesg Wasanaeth TG.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)  
  • Dymunol:   Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf