Cynghorydd Hydroleg ac Adnoddau Dŵr

Dyddiad cau: 17/08/2025 | Cyflog: Gradd 5, £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Yn hyblyg ar draws De Cymru (Parc Cathays 2, Caerdydd, Llandarcy, Cross Hands neu Hwlffordd)

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Hydroleg, Geomorffoleg a Rheoli Adnoddau Dŵr / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr ys wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 12/09/2025

Rhif swydd: 200897

Y rôl

Ymunwch â’n tîm Rheoli Llifogydd a Dŵr yn Ne Cymru a chyflawnwch rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â rhai o heriau amgylcheddol mwyaf dybryd heddiw. Fel un o bedwar cynghorydd hydroleg, byddwch ar flaen y gad o ran ymdrechion i feithrin gwydnwch hinsawdd a rheoli adnoddau dŵr, gan ddarparu dadansoddiad arbenigol sy’n llywio penderfyniadau ar draws lefelau lleol a chenedlaethol.

Mae hon yn rôl dechnegol gyfoethog ac amrywiol lle byddwch yn defnyddio’ch arbenigedd hydrolegol ar gyfer ystod eang o dasgau hanfodol. O gynllunio ar gyfer sychder a rheoleiddio llif mewn afonydd i asesiadau canlyniadau llifogydd ac adolygiadau ôl-ddigwyddiad, bydd eich gwaith yn dylanwadu’n uniongyrchol ar sut rydym yn ymateb i ddigwyddiadau tywydd eithafol a phwysau o ran dŵr yn yr hirdymor. Er bod y rôl yn bennaf yn y swyddfa, byddwch hefyd yn cael cyfle i fynd allan i’r maes, gan ymweld â rhai o afonydd mwyaf eiconig De Cymru, gan gynnwys afon Teifi, afon Cleddau, afon Gwy ac afon Wysg.

Gan weithio mewn cydweithrediad agos â chydweithwyr ar draws meysydd hydrometreg a thelemetreg, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau cywirdeb, cyfanrwydd a chymhwysiad data hydrolegol. Bydd eich mewnwelediadau’n cefnogi nid yn unig timau mewnol, ond hefyd partneriaid allanol fel Dŵr Cymru, gan helpu i lunio’r gwaith o reoli dŵr yn gynaliadwy ar draws y rhanbarth.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n ffynnu ar ddatrys problemau cymhleth ac sy’n dod â sgiliau technegol cryf – yn ddelfrydol gyda phrofiad o offer fel RStudio a Python – i ysgogi arloesedd mewn dadansoddi hydrolegol. Yn gyfnewid, byddwch yn gweithio mewn rôl gyda phwrpas go iawn, lle mae eich gwaith yn helpu i amddiffyn cymunedau, ecosystemau a chyflenwadau dŵr yn wyneb hinsawdd sy’n newid.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â 
Lloyd Jones Lloyd.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  
Tim Cross tim.cross@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Dadansoddi, dehongli a llunio adroddiadau ar ddata gwyddonol technegol, gan ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel i’r timau perthnasol, er mwyn cefnogi eu penderfyniadau a’u helpu i warchod yr amgylchedd.  
  • Ymchwilio i geisiadau am drwyddedau a atgyfeiriwyd a gwneud sylwadau arnynt, gan ddarparu ymateb technegol i ganolfan drwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), awdurdodau, datblygwyr a thimau rheoli adnoddau naturiol yn unol â pholisi cyfredol CNC, er mwyn cael dylanwad ar drwyddedu a datblygu cynaliadwy a’u hyrwyddo.  
  • Ymateb i geisiadau mewnol am asesiadau hydrolegol at ddibenion gweithredol a chydsynio mewn perthynas â pherygl llifogydd (gan gynnwys archwiliadau llif llifogydd at ddibenion asesiadau o ganlyniadau llifogydd a cydsyniadau amddiffyn rhag llifogydd, amcangyfrifon llifogydd ar gyfer mapio perygl llifogydd, asesiadau effeithiau hydrolegol ar gyfer trwyddedu gweithgareddau tynnu a chronni dŵr, a chynllunio gwlad a thref).  
  • Cydlynu a datblygu cynlluniau gwella’r amgylchedd yn unol â deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol er mwyn sicrhau bod CNC yn cydymffurfio. 
  • Cefnogi’r gwaith o gynnal archwiliadau technegol o gynlluniau cwmnïau dŵr a’u cynlluniau sychder trwy ddadansoddi a gwneud sylwadau ar effeithiau hydrolegol a hydrolig. 
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau argyfwng yn llwyddiannus, gan gynnwys rheoli digwyddiadau sychder a llifogydd. 
  • Cyflawni gwaith sicrhau ansawdd ar gyfer data a gwybodaeth yn ymwneud ag adnoddau dŵr, a’r systemau storio ac adalw cysylltiedig. Sicrhau bod gwybodaeth wedi’i diweddaru ac yn addas i’r diben. Cefnogi’r gwaith o reoli data ar archifau mewnol a “chenedlaethol”. 
  • Cynnal arferion gorau iechyd a diogelwch drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau ein bod yn darparu arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau Asiantaeth yr Amgylchedd. 
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

1.    Gradd mewn pwnc gwyddonol perthnasol (e.e. daearyddiaeth ffisegol, gwyddoniaeth amgylcheddol neu beirianneg sifil). 

2.    Aelod graddedig o gorff proffesiynol priodol (e.e. Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a'r Amgylchedd neu Sefydliad y Peirianwyr Sifil: Cymru) neu’n gweithio tuag at ennill statws siartredig. 

3.    Gallu dangos cymhwysedd mewn gwyddoniaeth hydrolegol a meddu ar y gallu i gymhwyso’r pwnc hwn yn ymarferol ac mewn modd arloesol ar lefel weithredol. Byddwch wedi ennill profiad dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys amcangyfrif llifoedd isel trwy ddefnyddio meddalwedd hydrolegol a data medryddol, ac amcangyfrif llifoedd uchel trwy ddefnyddio amrediad o dechnegau, sy’n cynnwys defnyddio meddalwedd y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd yn benodol ar gyfer dadansoddi ystadegol. 

4.    Gallu dangos dealltwriaeth o egwyddorion hydrometreg yn y maes a gallu dehongli, rheoli, dadansoddi a sicrhau ansawdd data hydrometrig trwy ddefnyddio cronfeydd data, systemau telemetreg a thechnegau dadansoddi data. 

5.    Byddai gallu dangos dealltwriaeth o systemau hydrolegol sianeli agored ac egwyddorion modelu hydrolegol yn fanteisiol, yn ogystal â pheth gallu o ran defnyddio meddalwedd modelu afonydd fel HEC-RAS. 

6.    Dealltwriaeth o dechnegau wrth gynnal arolygon topograffig. 

7.    Profiad y gellir ei ddangos o ysgrifennu adroddiadau technegol.

8.    Profiad o hyfforddi/mentora pobl a datblygu aelodau staff “iau”. 

9.    Rhaid cael trwydded yrru lawn y DU. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol: 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf