Cymorth Technegol Gweithrediadau Coedwigaeth
Dyddiad cau: 27/07/2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544 - £35,377| Lleoliad: Trallwng
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau Coedwigaeth – Gogledd-ddwyrain y Canolbarth / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 06/08/2025
Rhif swydd: 200464
Y rôl
Ydych chi’n angerddol am goedwigaeth a’r amgylchedd naturiol? Ymunwch â’n tîm Gweithrediadau Coedwigaeth yn y Trallwng a chyflawnwch rôl hanfodol wrth wraidd rheoli coetiroedd yn gynaliadwy yng nghanolbarth Cymru.
Fel Swyddog Cymorth Technegol, byddwch allan yn y maes ar y rhan fwyaf o ddyddiau, yn helpu i gynllunio a chyflawni amrediad eang o weithrediadau coedwigaeth ar dirweddau godidog Dyfnant, Hafren a Maesyfed. Byddwch yn cynnal arolygon ar safleoedd, yn casglu data am gadwraeth a choedwigoedd, yn cynnal cofnodion y system gwybodaeth ddaearyddol, ac yn darparu mewnbwn technegol hanfodol sy’n llunio dyfodol ein coedwigoedd. Boed yn goruchwylio cynaeafu, plannu neu baratoi’r tir, byddwch yn sicrhau bod gweithrediadau’n ddiogel, yn effeithlon ac yn gadarn yn amgylcheddol.
Mae hon yn rôl brysur, ymarferol lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn cysylltu â chontractwyr, yn goruchwylio gwaith safle, yn cwblhau dogfennaeth hanfodol, ac yn cefnogi’r tîm ehangach i ddarparu coedwigaeth amlswyddogaethol o ansawdd uchel sy’n cydbwyso cynhyrchu pren â bioamrywiaeth a manteision cymunedol.
Os ydych chi’n hunangymhellol, yn drefnus ac yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored ymhob tywydd – mae hwn yn gyfle gwych i feithrin eich gyrfa mewn rheoli coedwigoedd cynaliadwy wrth wneud argraff wirioneddol ar lawr gwlad.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Miriam Jones-Walters at
Miriam.jones-walters@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Fel tîm, rydym yn gyfrifol am reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gynaliadwy. Rydym yn ymarfer coedwigaeth amlswyddogaethol, gan sicrhau bod pren yn cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy fel rhan o weledigaeth CNC o weld byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.
Fel aelod allweddol o dîm Gweithrediadau Coedwigaeth Gogledd-ddwyrain y Canolbarth, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r swyddogion, yr uwch-swyddogion ac arweinydd y tîm i gyfrannu at reolaeth gynaliadwy Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn ein hardal.
Fel tîm, rydym yn gweithio ochr yn ochr â thimau eraill ym meysydd gweithrediadau coedwigaeth, rheoli tir, peirianneg a bywyd gwyllt fel rhan o Weithrediadau Canolbarth Cymru.
Mae’r tîm yn gweithio o’r Trallwng ond mae’n cwmpasu ardal eang, gan ymestyn i Goedwig Dyfnant yn y gogledd, Coedwig Hafren i’r gorllewin, a choedwigoedd Maesyfed a Llanandras i’r de. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar flociau penodol o goedwig ond bydd disgwyl i chi deithio ar draws yr ardal gyfan.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Rhoi cyngor technegol ar gyfer problemau sy’n benodol i’r sector neu broblemau technegol.
- Cyflawni cynlluniau gwaith a chymryd camau gweithredu y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynlluniau busnes.
- Cyfranogi yng ngrwpiau technegol CNC.
- Rhyngweithio gyda chymheiriaid yn CNC i hyrwyddo arferion y diwydiant a’r pwnc arbenigol mewn ffordd gyson.
- Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol dros gyflwyno rhaglenni dirprwyedig.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Profiad o weithio mewn disgyblaethau rheoli tir.
2. Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
3. Gwybodaeth am gynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwigoedd.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.