Arbenigwr Cynnyrch Arweiniol - Offeryn Rheoli Gwasanaeth
Dyddiad cau: 26 Mawrth 2023 | Cyflog: £41,150 - £46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 30 Medi 2023
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 203501
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn berchen ar (a bydd ganddo ymreolaeth) dros offeryn rheoli gwasanaeth TGCh o fewn TGCh, gan gynnal perthynas agos â chwsmeriaid busnes - gan gynnwys Penaethiaid Gwasanaeth.
Bydd deiliad y swydd yn gweithredu ar lefel dactegol a gweithredol ac yn goruchwylio ac yn atebol i'r busnes am gefnogaeth perfformiad ac ansawdd yr offeryn Rheoli Gwasanaeth.
Bydd yn gweithio gyda'r busnes i ganfod meysydd i'w gwella ac yn nodi gofynion newydd a gweithio gyda Phenaethiaid Gwasanaeth i nodi datblygiadau a galw newydd ac i’r dyfodol.
Mae'r swydd hon yn rhan o'r Tîm Rheoli TGCh.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Bod yn gyfrifol am oruchwylio cymorth o’r dechrau i’r diwedd a chynnal a chadw'r offeryn rheoli gwasanaeth TGCh o fewn TGCh ac i gwsmeriaid busnes CNC gan weithio'n agos, pan fo angen, gyda Hornbill trydydd parti.
- Goruchwylio gwasanaethau gweithredol i gwsmeriaid TGCh, i'r lefelau y cytunwyd arnynt mewn CLGau, gan sicrhau bod yr offeryn Rheoli Gwasanaeth yn rhoi gwerth i'r busnes.
- Goruchwylio a chynnal y perthnasoedd busnes ar gyfer meysydd busnes dynodedig CNC gan ddefnyddio’r offeryn Rheoli Gwasanaeth.
- Bod yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli cyfarfodydd datblygu Hornbill creadigol a gwerthfawr gyda'r cwsmeriaid gan gynnwys Penaethiaid Gwasanaeth.
- Goruchwylio'r holl gysylltu mewn perthynas â mentrau TGCh a newidiadau i'r offeryn rheoli gwasanaeth TGCh i'r cwsmer.
- Arwain ar gyfathrebu newidiadau mewn galw neu ofynion cwsmeriaid i'r offeryn rheoli gwasanaeth TGCh a
bod yn gyfrifol am reolaeth weithredol a thactegol. - Goruchwylio a chynhyrchu gwybodaeth reoli fanwl o'r offeryn rheoli gwasanaeth TGCh ar gyfer y cwsmer busnes a TGCh. Creu a rheoli dangosfwrdd ystadegau ac adroddiadau - gan ddefnyddio Hornbill a PowerBI.
- Cydweithio â’r tîm datblygu/prosiect a pherchennog y Cynnyrch i ddylunio/adeiladu/profi proses newydd fel rhan o welliant parhaus y Gwasanaeth
- Gweithio gyda'r tîm cwsmeriaid busnes a TGCh, i wella'r offeryn rheoli gwasanaeth trwy awtomeiddio, integreiddio, tryloywder, a defnyddio'r mentrau CSI.
- Chwarae rhan bwysig yn natblygiad a chyflwyniad yr offeryn Rheoli Gwasanaeth TGCh yn unol â'r strategaeth TGCh.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gradd TG neu brofiad cyfatebol. Sefydliad ITIL yn orfodol gyda phrofiad rheoli gwasanaeth helaeth (tair blynedd). Cymhwyster Gweithrediadau a/neu Bontio proffesiynol ITIL yn ddymunol iawn.
- Profiad busnes helaeth a'r gallu i adeiladu a chynnal perthnasoedd cymhleth. Profiad o reoli mewn amgylchedd rheoli matrics.
- Yn gallu ac yn barod i gyfathrebu ar bob lefel o fusnes a TGCh.
- Gallu datblygu a chynnal perthnasoedd busnes.
- Gallu nodi risgiau a materion a rheoli neu uwchgyfeirio'n briodol.
- Gallu cynrychioli strategaethau a mentrau TGCh yn gydlynol ac yn hyderus.
- Profiad o ddatblygu a gweinyddu offeryn Rheoli Gwasanaeth.
- Profiad o ddefnyddio offer adrodd i greu Gwybodaeth Ystadegol.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 26 Mawrth 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 3 Ebrill 2023 drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Alison Jones ar Alison.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.